Ar y dudalen hon:
- Manylion archebu y CD dwbl o emyn-donau poblogaidd
- Gwybodaeth am gyfrifon Twitter a Facebook Undeb yr Annibynwyr
CD dwbl o emyn-donau
I’w cael o Dŷ John Penri, 50 o emyn-donau poblogaidd ar ddwy CD, ynghŷd â Llawlyfr yn rhestru geiriau degau o emynau y gellir eu defnyddio gyda’r tonau. Pris £16.00 (+ cludiant).
Mae gan yr Undeb ddau gyfrif Twitter
@AnnibynwyrCymru
Bydd amrywiol gyhoeddiadau a hysbysebion yr Undeb yn ymddangos ar y cyfrif hwn. Os bydd rhywun yn ymateb trwy drydar i @AnnibynwyrCymru, rhaid i’r neges gael ei chymeradwyo cyn y bydd yn ymddangos gan fod cynnwys @AnnibynwyrCymru yn ymddangos ar wyneb-ddalen gwefan yr Undeb.
@YsgCyff
Fel mae’r enw’n awgrymu, cyfrif yr Ysgrifennydd Cyffredinol yw hwn, a gall gynnwys sylwadau sy’n farn bersonol ganddo ef ond nid yn adlewyrchiad o safbwynt na pholisi’r Undeb.

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ar Facebook
Mae gan yr Undeb gyfrif Facebook hefyd.
Os byddwch am gyfrannu deunydd neu luniau i’r dudalen, cysylltwch ag undeb@annibynwyr.org