Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru fod cyfnod clo byr yn dod i rym am 1800 nos Wener y 23ain o Hydref, dyma ganllawiau i eglwysi gan y Llywodraeth.
https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin#section-53267
Mannau addoli, priodasau a phartneriaethau sifil, mynwentydd ac angladdau
Beth yw’r rheolau ar gyfer gwasanaethau crefyddol?
Ni fydd addoldai yn agored i’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer seremonïau priodas neu bartneriaeth sifil neu angladdau, lle gall pobl fynychu ar wahoddiad y trefnydd. Gweler y canllawiau ar angladdau i gael rhagor o wybodaeth.
Caiff gweinidogion fynd i mewn i’r addoldy i ddarlledu (heb gynulleidfa) weithred o addoli neu angladd, boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu.