Cyflwyniad cofio’r cenhadon

Posted on

Dyma beth yw golygfa anhygoel! Tua 700 o bobl yn sied enfawr canolfan geffylau Celaeron, ergyd carreg o gapel Neuaddlwyd, lle cafodd David Jones a Thomas Bevan eu hordeinio’n genhadon ddwy ganrif yn ôl.

Ymhlith y gynulleidfa, roedd dros 50 o bobl o Fadagascar, gan gynnwys cyn-Arlywydd yr ynys fawr honno ger arfordir Affrica, Marc Ravalomana. Ar y dde yn y llun, gwelir ef yn sgwrsio gyda Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr, ac Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Trwy gyfrwng ffilmiau ar ddwy sgrin anferth, cerddoriaeth ac emynau gan y côr a’r gynulleidfa fawr, adroddwyd hanes y ddau genhadwr a’u teuluoedd dewr aeth i Fadagascar yn 1818.

Cafwyd potread dramatig o’r fordaith hir a thymhestlog, genedigaethau, erlidigaeth, tywydd eithafol – a’r malaria a laddodd Thomas Bevan, ei wraig Mary a’u plentyn bach, yn ogystal â Louisa, gwraig David Jones, a’u plentyn hwythau.

Ond daliodd David Jones ati drwy’r cwbl i sefydlu ysgolion ac eglwysi, a gyda chymorth David Griffiths o Wynfe, Sir Gâr, mynd ati i drosi’r Beibl i Falagaseg. Iaith lafar ydoedd cyn hynny, felly bu’n rhaid i’r cenhadon lunio gramadeg cyn trosi’r Ysgrythurau. O gael iaith ysgrifenedig, rhoddwyd undod i’r genedl, gweithred sy’n cael ei chydnabod gan bobl Madagascar tan heddiw.

Roedd portreadu’r hanes yng Nghelaeron hefyd yn dipyn o orchest, gyda dros gant o bobl leol yn cyfrannu mewn amryw ffyrdd – o’r rhai fu’n sgriptio, i’r perfformwyr a’r bobl fu’n ffilmio a golygu’r fideos. Ar ddiwedd y perfformiad cafwyd cymeradwyaeth fyddarol. Braf, hefyd, oedd gweld Yvonne Evans, ddaw o ardal Aberaeron, yno yn cyflwyno eitem yn fyw ar gyfer Heno S4C, a Ryland Teifi yn ffilmio ar gyfer rhifyn o Dechrau Canu Dechrau Canmol yn ogystal â Catrin M. S. Davies o gwmni cynhyrchu Unigryw oedd wrthi’n creu rhaglen ddogfen ar gyfer Radio Cymru.