Covid-19 a Madagascar

Posted on

gan Robin Samuel

Un o’r pethau a glywyd yn gyson dros yr wythnosau diwethaf yw nad yw COVID-19 yn parchu unrhyw ffiniau, boed genedlaethol neu gymdeithasol. Ond wedi dweud hynny mae’r ochr o’r ffin rydych yn cael eich hun arni yn gallu bod yn allweddol yn y frwydr i ymladd y feirws a’i effeithiau. 

Yn sicr un o’r gwledydd gellir dweud sydd ar yr ochor arall i’r ffin yw Madagascar. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf fe gawsom ni fel Annibynwyr gyfle i ddysgu am y wlad a’i phroblemau drwy ‘Bywyd i Bawb’, ein hapêl dros bobl yr ynys. Daethom i adnabod pobl FJKM, Topaza, Akany Avoko Faravohitra, SAF a Choleg Diwinyddol Ivato a gwybod am yr heriau sylweddol maen nhw’n wynebu i sicrhau ‘bywyd ar ei orau’ i bobl Madagascar. Mae’r prosiectau rydym yn eu cefnogi yn mynd i olygu fod rhai o’r bobl dlotaf a mwyaf bregus ar yr ynys yn mynd i elwa, ond mae yna bryderon gwirioneddol am allu’r wlad i ymdopi gydag effeithiau COVID-19.

Robin Samuel a Heretina

Un o’r bobl rwy wedi cadw mewn cysylltiad ag ef dros y ddwy flynedd ddiwethaf yw Heritiana, un o swyddogion FJKM a fu a gofal drosom pan roeddem yn ymweld â’r ynys. Felly dyma anfon e-bost ato ychydig ddyddiau yn ôl yn holi beth oedd y sefyllfa yno erbyn hyn.  

Un o’r bobl rwy wedi cadw mewn cysylltiad ag ef dros y ddwy flynedd ddiwethaf yw Heritiana, un o swyddogion FJKM a fu a gofal drosom pan roeddem yn ymweld â’r ynys. Felly dyma anfon e-bost ato ychydig ddyddiau yn ôl yn holi beth oedd y sefyllfa yno erbyn hyn. 

Fe gadarnhaodd bod y feirws wedi cyrraedd yr ynys tua chanol mis Mawrth pan wnaeth nifer o bobl ddangos symptomau. Sylweddolwyd yn fuan fod bron pob un oedd yn sâl yn bobl oedd wedi teithio i’r ynys o Ffrainc. Dechreuwyd cynnal profion, ac erbyn diwedd y mis roedd 500 o bobl wedi cael prawf gyda 45 ohonynt yn gadarnhaol, ond yn ôl Heritiana mae’r broses o gynnal profion yn araf iawn. Does gan y llywodraeth ddim adnoddau digonol i brofi’r bobl a fu mewn cysylltiad gyda’r rhai sydd wedi dal y feirws.

Er na chofnodwyd unrhyw farwolaeth ‘swyddogol’, o ganlyniad i’r feirws, fe weithredodd y llywodraeth yn syth. Ar 19 Mawrth rhwystrwyd pobl rhag gadael a dod i mewn i’r ynys, a hefyd ‘cau lawr’ dwy o ranbarthau pwysicaf yr ynys, Antananarivo sy’n cynnwys y brifddinas a Toamasina, lleoliad prif borthladd yr ynys, a’r man lle glaniodd y cenhadon. Mae bron i draean o boblogaeth yr ynys yn byw yn y rhanbarthau hyn, ac fe orchmynwyd i bawb aros yn eu cartrefi. Mae rhai siopau lleol yn cael aros ar agor o 6 y bore tan amser cinio er mwyn i bobl brynu nwyddau hanfodol. Yn naturiol mae cyfarfodydd cyhoeddus wedi eu gwahardd am y tro, ac fe osodwyd cyfyngiadau llym ar deithio gyda dim ond cerbydau meddygol, neu rhai a awdurdodwyd gan y llywodraeth, yn cael bod allan ar y ffordd. Mae’r heddlu a’r fyddin yn ceisio sicrhau fod pobl yn ufuddhau. 

Hyd yn hyn mae ffatrïoedd a busnesau preifat sy’n gwneud gwaith neu wasanaeth hanfodol wedi cael caniatâd i aros ar agor, ond bod lefel y gwaith i’w dorri lawr i’r mymryn lleiaf posibl. Mae hyn yn golygu bod nifer o’u gweithwyr wedi eu hatal o’u gwaith dros dro.

Ystafell aros mewn meddygfa SAF yn y brifddinas

Bu’n rhaid i’r ysgolion a’r eglwysi gau hefyd, ond mae’r cyrff eglwysig wedi dod at ei gilydd i brynu amser darlledu, ac fe geir oedfaon ar y teledu gall pobl eu gweld yn eu cartrefi.

Bu’n rhaid i’r ysgolion a’r eglwysi gau hefyd, ond mae’r cyrff eglwysig wedi dod at ei gilydd i brynu amser darlledu, ac fe geir oedfaon ar y teledu y gall pobl eu gweld yn eu cartrefi.

Bues i’n holi Heritiana am rôl meddygfeydd SAF, un o’r prosiectau rydym yn eu cefnogi drwy’r apêl, ac sy’n gwneud gwaith pwysig iawn yn sicrhau gofal meddygol fforddiadwy i’r bobl dlotaf. Dim ond ysbytai’r wladwriaeth sy’n cael delio â’r feirws, felly does ganddyn nhw ddim hawl i drin unrhyw un yr amheuir eu bod yn dioddef o’r feirws, ond mae’r meddygfeydd yn gwneud pob ymdrech i aros ar agor ar gyfer y bobl sy’n gallu cyrraedd atynt. 

Falle bod llawer o hyn yn swnio’n ddigon tebyg i beth rydym ni’n ei brofi yng Nghymru, ond wrth gwrs mae yna ffactorau sy’n gwneud sefyllfa Madagascar dipyn gwaeth na’n sefyllfa ni.

Mae Madagascar yn ddegfed ar restr gwledydd tlotaf y byd, gyda 90% o’r boblogaeth yn byw ar lai na gwerth £1.50 y diwrnod. Fel dwedodd Heritiana mae’r lefelau hyn o dlodi enbyd yn golygu na all cyfran sylweddol o’r boblogaeth fforddio aros adref. Os nad ydynt yn mynd mas i weithio neu chwilio am waith maen nhw a’u teuluoedd mewn perygl gwirioneddol o newynu, a does ’na ddim help ariannol ar gael gan y wladwriaeth.

Er mai dim ond dau ranbarth sydd wedi eu ‘cau lawr’ yn swyddogol hyd yma, mae trigolion y rhanbarthau eraill i fod i gymryd mesurau gofal, tebyg i’r hyn y gofynnir i ni eu gwneud. Ond sut mae disgwyl i bobl gadw pellter cymdeithasol neu hunanynysu pan fod cymaint ohonynt yn byw ar ben ei gilydd mewn slymiau? Yn aml mae sawl cenhedlaeth yn byw mewn un tŷ cyfyng.

Dim ond tua 30% o’r boblogaeth sydd â mynediad i ddŵr glân cyfleus, felly pa ystyr sydd mewn annog pobl i olchi eu dwylo mor aml â phosibl? A hyd yn oed pan nad oes digon o ddŵr glân ar gael, does ganddyn nhw’r arian i brynu gel glanweithiol ychwaith!

Y gwir yw, wrth gwrs, bod y ffyrdd cydnabyddedig o ddiogelu ein hun rhag y firws yn bosibl yn unig i’r rhai hynny ohonom sydd yn dda ein byd.

Y gwir yw, wrth gwrs, bod y ffyrdd cydnabyddedig o ddiogelu ein hunain rhag y firws yn bosibl yn unig i’r rhai hynny ohonom sydd yn esmwyth ein byd.

Mae’n arwyddocaol hefyd fod y mwyafrif o’r achosion sydd wedi eu cofnodi ym Madagascar ymhlith pobl a deithiodd i’r ynys o Ffrainc. Fel mae mwy nag un wedi cyfeirio ato’n barod mae hwn yn afiechyd sydd wedi ei ledaenu yn bennaf gan y cyfoethog a chyffyrddus eu byd wrth iddynt hedfan ar draws y blaned, ond wrth wneud hynny fe roddwyd bywydau miliynau o bobl dlotaf a mwyaf bregus ein byd mewn perygl dirfawr.

‘Cadw mewn cysylltiad a chofiwch amdanom’, oedd cais Heritiana. Ga i ein hannog ni gyd i wneud hynny.