Cofio’r Cenhadon yn y ‘Steddfod

Posted on

COFIO’R CENHADON ar Ddydd Iau yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd 

Yn ein hoes gynyddol seciwlar ni, mae cenhadon Cristnogol yn aml yn cael eu gweld fel pobl a aeth i orfodi eu crefydd ar wledydd eraill – yn aml mewn cyd-destun coloneiddio, yng nghwmni masnachwyr a milwyr.

Yn sicr, nid oedd hynny’n wir am genhadon o orllewin Cymru a aeth i Fadagascar union 200 mlynedd yn ôl. Trwy lunio ffurf ysgrifenedig o’r iaith Falagaseg lafar er mwyn cyfieithu’r Beibl, fe wnaeth y cenhadon Cymreig, David Jones a David Griffiths, greu undod cenedlaethol a helpodd bobl Madagascar i oroesi’r coloneiddio Ffrengig yn ddiweddarach. Maent yn cael eu cydnabod gan lawer o bobl ar un o ynysoedd mwya’r byd fel “tadau ein cenedl.”

Yn ystod yr haf hwn gwelir dathlu’r Ddaucanmlwyddiant yn y ddwy wlad. Roedd tua 50 o bobl o Fadagascar, gan gynnwys cyn-arlywydd y wlad Marc Ravalomanan (chwith), ymhlith y cannoedd o bobl a fynychodd ddathliadau yn ystod cyfarfodydd blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn Aberaeron ym mis Mehefin. Yn hwyrach y mis hwn, bydd Llywydd yr Undeb, y Parchg Jill–Hailey Harries, yn bresennol yn y dathliadau ym Madagascar.

Mae’r Annibynwyr Cymraeg hefyd yn cynnal apêl ymhlith eu 400 o eglwysi dros gyfnod o flwyddyn i godi symiau sylweddol o arian tuag at wahanol brosiectau ym Madagascar, sy’n un o wledydd tlotaf y byd. Bu Rhodri Darcy a’r Parchg Robin Samuel yn ymweld â’r prosiectau y llynedd, ac mae pecynnau ar fin fynd allan i’r eglwysi. 

Cofio’r Cenhadon: Dydd Iau 9 Awst 1.30-2.30, Ystafell yr Harbwr, Tŷ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CA10 5FH