Cefnogi Cefn Gwlad

Posted on

Mynegwyd pryder difrifol am yr effaith y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd ei gael ar amaethyddiaeth a bywyd cefn gwlad yn gyffredinol yng nghyfarfod Cyngor Undeb yr Annibynwyr yng Ngregynog ger y Drenewydd dros y penwythnos a fu. Mae’r rhan fwyaf o’r 400 o gapeli Annibynnol mewn ardaloedd gwledig Cymraeg eu hiaith, ac yn wynebu cyfnod o ansicrwydd mawr – pa bynnag ddull o Frexit fydd yn digwydd. 

Ers 40 mlynedd bu ffermwyr Cymru’n dibynnu’n drwm ar y cymorth ariannol blynyddol o £400m a ddaw trwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (CAP). Fe all hyd at 80% o incwm fferm yng Nghymru ddod o CAP, o’i gymharu â’r cyfartaledd Prydeinig o 55%. Mae Llywodraeth Prydain wedi addo cynnal “gwariant ar amaethyddiaeth” ar y lefel bresennol tan 2022, ond gan fod amaethyddiaeth wedi cael ei ddatganoli, d’oes wybod sut bydd yr arian yn cael ei ddosrannu. Clywodd y Cyngor y dylid cael cytundeb rhwng gwledydd Prydain i sicrhau bod ffermwyr Cymru’n parhau i gael yr un lefel o gymorth ar ôl Brexit. 

Swyddogion yr Adran Tystiolaeth yn arwain trafodaeth am ganlyniadau bosib Brexit. Y Parchg Carwyn Siddall (Ysgrifennydd), Ifan Alun Puw (Cadeirydd) a Nerys Humphries (Cofnodydd)

Hunllef ‘Dim Dêl.’

Gan fod Cyngor yr Undeb yn cwrdd ar drothwy’r pleidleisio yn San Steffan yr wythnos hon, cafodd y tri opsiwn oedd yn wynebu’r senedd eu hystyried yng Ngregynog. Dywedwyd y byddai gadael yr UE heb ddêl yn wirioneddol drychinebus i ffermwyr defaid yn enwedig. Dyma’r sector amaethyddol fwyaf yng Nghymru, gyda 40% o’r pum miliwn o ŵyn sy’n cael eu magu bob blwyddyn yn cael eu hallforio i’r UE. Heb gytundeb, byddai allforion i Ewrop yn stopio ar Fawrth 29 a gan nad oes digon o ddarpariaeth i rewi a storio’r cig tan fod marchnadoedd newydd yn cael eu canfod, rhybuddiodd swyddogion amaeth DEFRA yn Lloegr y byddai dim dewis ond difa hyd at 10 miliwn o ŵyn. Byddai hynny yn golled o £100 yr anifail i amaethwyr – sef pris yr oen a chost ei ladd. 

Cytuno gweithredu

Fe wnaeth Undeb yr Annibynwyr gychwyn ymgyrch y llynedd i gydweithio gydag enwadau eraill i sicrhau cefnogaeth i ffermwyr yng nghefn gwlad Cymru sy’n mynd i drafferthion ariannol neu’n dioddef o iselder ysbryd a gorbryder. Cytunwyd yng Ngregynog i barhau a’r strategaeth trwy: 

  1. Godi ymwybyddiaeth ymhlith ein gweinidogion a’n aelodau yn gyffredinol o drafferthion ariannol a phryderon eraill allai fodoli neu ddatblygu ymhlith amaethwyr ac eraill, gan gynnwys cynhyrchu cardiau a phoster gyda’r rhif llinell gymorth 03000 111 999 (Farming Aid) i’w arddangos mewn pob capel; ac i:
  2. Lobïo’r llywodraethau yn Llundain a Chaerdydd i sicrhau bod amaethyddiaeth yng Nghymru yn cael cynhaliaeth ariannol ddigonol gan lywodraeth San Steffan pan ddaw arian CAP Ewrop i ben.