Diolch i’r Parchg Gethin Rhys, Swyddog Polisi Cytûn am dynnu ein sylw at ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer canu dros gyfnod y Nadolig (carolau, plygain, calennig a’r Fari Lwyd). Gellir darllen y canllawiau yma:https://llyw.cymru/canu-dros-gyfnod-yr-wyl. Maent yn cwmpasu canu y tu hwnt i addoli ffurfiol, ond mae’r ddau baragraff allweddol o ran oedfaon fel a ganlyn (fi sydd wedi ychwanegu’r pwyslais):
Gellir cynnal gwasanaethau carolau mewn mannau addoli yn dibynnu ar faint o le i bobl sydd yn yr adeilad a bennwyd drwy asesiad risg ac yr amod bod gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo a bod pellter corfforol o ddau fetr rhwng aelwydydd. Gall hyn gynnwys perfformiad gan gôr a/neu gerddorion ond dylid osgoi canu cynulleidfaol. Mae’n werth nodi na fydd pawb sy’n cymryd rhan mewn gwasanaeth o’r fath yn mynychu’r man addoli’n rheolaidd felly cyfrifoldeb trefnwyr y man addoli yw esbonio’r ymddygiad a ddisgwylir gan y rhai sydd wedi dod, gan gynnwys peidio ag ymuno yn y canu. Efallai y bydd trefnwyr gwasanaethau am ystyried mynediad drwy docyn yn unig er mwyn sicrhau na fydd gormod yn y gynulleidfa a rhoi cyfle i esbonio’r gofynion ymlaen llaw.
Gall gwasanaethau carolau, neu ddigwyddiad canu, gael eu cynnal yn yr awyr agored fel digwyddiad wedi’i drefnu, boed hynny gan grŵp ffydd neu sefydliad arall. Mae terfyn o 30 o bobl ar gyfer y digwyddiadau hyn, sy’n cynnwys perfformwyr ond nid trefnwyr y digwyddiad na phlant o dan 11 oed. Gall y digwyddiadau hyn gynnwys canu cymunedol gan bawb sy’n bresennol p’un a yw pobl yn rhan o’r grŵp canu wedi’i drefnu ai peidio. Dylid rhoi rheolaethau rhesymol ar waith yn y man lle y cynhelir y digwyddiad er mwyn sicrhau y gellir cadw at y terfyn ar niferoedd ac y gall pawb sy’n cymryd rhan gadw pellter corfforol o ddau fetr oddi wrth y rhai sydd o’r tu allan i’w haelwydydd neu eu haelwydydd estynedig eu hunain. Dylid gwneud ymdrech i sicrhau na fydd eraill yn ymgasglu a thrwy hynny estyn y niferoedd sy’n sefyll yn agos i’w gilydd. Os yw’r trefnwyr o’r farn y bydd yn anodd iddynt gadw at y terfyn o 30 o bobl am y bydd aelodau eraill o’r cyhoedd am ymuno yn y digwyddiad, yna ni ddylent gynnal y digwyddiad.
Ar gyfer gwasanaethau carolau, gellir defnyddio offerynnau chwyth dan amodau llym iawn – Caniateir i gerddorion gyfeilio i grŵp canu dan do ac yn yr awyr agored. Gall hyn gynnwys offerynnau chwyth, ar yr amod bod systemau awyru da ar gael a bod pellter corfforol o ddau fetr llawn o amgylch pob cerddor, ni waeth pa offeryn y mae’n ei ganu.
Nid oes dim o hyn yn newid y rheoliadau cyfreithiol presennol, ond mae’r canllawiau yn tynnu ynghyd wybodaeth oedd ar wasgar, ac yn cynnwys arweiniad defnyddiol dros ben i lunio asesiad risg ar gyfer achlysur o’r fath, a dylai trefnwyr ddarllen y canllawiau yn gyfan.
Wedi dweud hyn i gyd mae Llywodraeth Cymru am eich atgoffa fod y sefyllfa iechyd ar hyn o bryd yn ddifrifol iawn yng Nghymru, a bod rhaid i bob asesiad risg a gynhelir ddechrau trwy ofyn y cwestiwn O ystyried y risgiau annatod dan sylw, a oes angen i mi gynnal y gweithgarwch hwn o gwbl? A oes dewisiadau mwy diogel eraill megis darlledu?