Bywyd adeg COVID-19: Glenys y gweinidog

Posted on

Parchg Glenys Jones

Mae’r cyfnod COVID-19 hwn yn un dyrys i lawer, ac mae profiad gweinidogion o weinidogaethu wedi newid yn llwyr. I rai, mae’r dechnoleg ddiweddaraf wedi dod yn rhan annatod o’u gweinidogeth, i eraill rhaid meddwl am ffyrdd amgen o gynnal eu cymunedau. Cafodd Y Tyst gyfle i sgwrsio â’r Parchg Glenys Jones, Pwllheli am y ffordd y mae bywyd wedi newid iddi hi.

‘Mae bywyd wedi newid yn llwyr i aelodau eglwys Pen-lan Pwllheli a Soar Nefyn, rhaid deud. Mae pawb yn byw yn ôl gofynion y llywodraeth. Mae pobl yn ofni mynd allan ac felly’n cadw i’w tai.

‘Rydan ni wedi gorffen cynnal oedfaon ers canol mis Mawrth, wrth gwrs,’ medd Glenys. ‘Mae ein haelodaeth ni yn hŷn, llawer ohonynt heb gyfrifiaduron a dydw innau ddim yn un am ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf chwaith – dwi’n beio’r ffaith i mi fod yn athrawes ffidil ar hyd fy ngyrfa am hynny, doedd dim rhaid defnyddio allweddell cyfrifiadur wrth ddysgu plentyn sut i ddilyn nodau er mwyn canu’r ffidil, nagoedd? Bu’n rhaid i mi ddysgu defnyddio cyfrifiadur pan fûm i ’nôl yn y coleg yn astudio, ond doedd o ddim yn dŵad yn naturiol i mi, rhaid deud. 

‘Felly dydw i ddim wedi bod yn anfon negeseuon dros e-bost nac yn rhoi adnoddau ar y we ond yn hytrach dwi’n annog yr aelodau i wylio’r ddarpariaeth sydd ar gael ar y teledu a gwrando ar y radio. Mae budd mawr i’w gael o wneud hynny.’ 

Y mae Glenys yn cadw mewn cysylltiad â’i phraidd yn gyson drwy godi’r ffôn a sgwrsio, ‘A deud y gwir, dwi wedi cael sgrysiau da efo pobl ac o bosibl, yn siarad mwy efo rhai nag y byddwn ni ar adegau mwy arferol. Dwi’n teimlo ’mod i’n dysgu llawer am bobl wrth gychwyn sgwrs dros y ffôn, dwi’n meddwl fy mod i wedi dod i adnabod ambell un yn well yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n braf sgwrsio â phobl ac mae pobl yn gwerthfawrogi hynny. Ac weithiau yn yr adeg hwn dwi’n cael syrpreisus bach hyfryd fy hun, pan fo rhywun annisgwyl yn ffonio neu dwi’n derbyn llythyr drwy’r post.’

Un peth sydd yn dal i ddigwydd yw angladdau, wrth gwrs, ac y mae Glenys yn parhau i’w cynnal nhw pan gaiff wahoddiad. ‘Mae’n brofiad hynod chwithig, cynnal angladd a dim ond llond dwrn o bobl yn bresennol. Cynhaliwyd angladd wythnos ddiwethaf, un o aelodau’r eglwys ym Mhen-lan, dynas yn ei nawdegau a oedd yn byw mewn cartref gofal. Dim ond fi, yr ymgymerwr angladd, dau berson yn cario’r arch, dau aelod o staff o’r cartref, un aelod o’r eglwys a chwaer yr ymadawedig oedd yn bresennol. Roedd yn rhaid i bawb gadw pellter oddi wrth ei gilydd, fedrwn i ddim cysuro neb. Roedd yn deimlad lleddf rhywsut, yn drist iawn, ac ar ben hynny, roedd hi’n bwrw glaw.’ 

Fel arfer byddai Glenys yn cynnal un oedfa’r mis ym Mhen-lan ac un yn Soar, Nefyn. Yn aml bydd Glenys yn cynnal tair oedfa ar y Sul oherwydd byddai’n cynnal oedfaon mewn eglwysi eraill yn ogystal,

‘Mi fyddwn i’n cynnal oedfaon yn eglwysi’r Presbyteriaid, y Bedyddwyr a’r Annibynwyr yng Ngwynedd ac yn teithio ymhellach, draw i Sir Fôn, i Landudno weithiau ac i Lanuwchllyn. Roeddwn i’n cynnal oedfaon mewn cartrefi gofal hefyd, mae’r cyfan wedi stopio am y tro. Dwi yn colli’r croeso a’r gwmnïaeth gynnes oedd i’w gael ym mhob man.’

Yn ogystal ag oedfaon roedd Glenys wedi cychwyn cyfarfodydd gweddi unwaith y mis yn y ddau gapel yn Nefyn, byddai rhwng 12–20 o bobl yn dod i’r rhain, ‘Dwi’n ystyried y cyfarfodydd gweddi hyn yn llwyddiant yn ein hardal ni. Dydyn nhw ddim yn bodoli rŵan, ond gobeithio y bydd modd i ni eu cychwyn eto pan ddaw hyn i ben.’

Mae ceisio darogan pryd ddaw’r cyfnod rhyfedd hwn i ben yn amhosibl, ac y mae Glenys yn ei chael hi’n anodd i droi at waith ysgrifennu a chreu pregethau, ‘Dwi’n methu meddwl beth fydd y dyfodol. Pryd fyddwn ni’n dod yn ôl at ein gilydd eto? Roeddwn i wedi bwriadu bod yn drefnus a sgwennu pregeth newydd yn gyson yn ystod y cyfnod hwn ond dydy hynny ddim wedi digwydd. Dwi wedi mynd i hel meddyliau’n drybeilig.

‘Un o’r pregethau diweddaraf i mi ei thraddodi cyn yr ymneilltuo mawr, oedd ar hanes y llo aur. Dwi wedi bod yn meddwl ers hynny a oes rhywbeth i ni ar hyn o bryd yn y stori hon? Ydyn ni wedi troi cefn ar Dduw, wedi mynd yn fwy materol, oes rhywbeth i ni ei ddysgu am yr hyn sydd wir o bwys? Y mae Duw yn Dduw sy’n maddau bob tro, ac mae hynny’n bwysig cofio.’

Mae’r cyfnod rhyfedd hwn o lonyddwch yn golygu bod Glenys wedi cael cyfle i glirio a thwtio pethau yn y tŷ a chydio mewn sawl cyfrol i’w darllen. ‘Dwi wedi bod yn mynd drwy hen betha adra, yn tacluso a thaflu rhai petha hefyd. Dwi wedi cael mynd yn ôl i’r gorffennol a chael amser i fyfyrio ac i feddwl am fywyd yn gyffredinol. Dwi’n teimlo efallai bod ein bywydau “arferol” wedi mynd yn rhy gyflym a’n bod ni wedi’r colli’r gallu i edrych yn iawn ar bethau o’n cwmpas. Mae’r gwrthgyferbyniad llwyr rhwng y ffasiwn dywydd braf a ninnau ynghanol yr holl enbydrwydd yma yn rhywbeth dyrys iawn!’

Un peth y mae Glenys yn ei fwynhau yw ei bod hi’n gallu mynd am dro o gwmpas Pwllheli gan fod braidd dim traffig, ‘Dwi mynd allan i gerddad peth cynta’n y bora. Dwi ddim yn gorfod gwatsiad rhag ofn bod ceir yn dŵad, a dwi’n medru croesi’r ffordd heb orfod aros am y golau coch. Mae yna rhai bendithion i’w cael yn y cyfnod hwn, yndoes!’