Blwyddyn Ffydd y BBC

Posted on

Mae’r BBC wedi neilltuo 2019 fel ‘Blwyddyn y Credoau.’ Awgrymodd arolwg diweddar fod gormod o sylw yn cael ei roi i Gristnogaeth ar sianeli’r Gorfforaeth, ac yn ystod eleni fe fydd sawl cyfres a rhaglen unigol ar radio a theledu yn sôn am grefyddau eraill. Er bod rhaglenni Cristnogol i barhau “yn gonglfaen darlledu o gwmpas y Nadolig a’r Pasg,” meddai’r BBC, bydd sylw’n cael ei roi i wyliau crefyddau eraill, fel Ramadan, Rosh Hashanah, Diwali, a gŵyl Hirddydd Haf y derwyddon – y rhai sy’n ymgasglu yng Nghôr y Cewri, nid o gylch meini’r orsedd! 

Amrywiaeth eang

Ymhlith yr amrywiaeth eang o raglenni cawn weld y tu ôl i’r llenni yn y Fatican, allai ddenu mwy o wylwyr o gofio’r scandalau diweddaraf. Adroddir hanes pentref Bruderhof ger Hastings, lle mae cymuned o 300 o bobl yn byw ‘fel disgyblion i Iesu’, gan ymwrthod â dyfeisiadau cyfoes fel ceir a ffônau symudol.  Fe fydd cyfres o raglenni ar Radio 4 yn ystyried y Fatwa Islamaidd yn 1989 yn erbyn Salman Rushdie, a fu’n cuddio ym Mhowys am gyfnod pan oedd pris ar ei ben am gabledd honedig y Satanic Verses.Bydd cyfres arall yn ystyried y berthynas rhwng crefydd a gwyddoniaeth.

Crefydd Pobol y Cwm

Mae’r BBC hefyd am weld themâu ffydd a chred yn cael eu gweu mewn i ddramâu ac operâu sebon. Efallai y gwelwn Dai Scaffalde a Gary Monk yn cael tröedigaeth ac yn ailgodi’r Band of Hope ym Methania! Mae’r capel i’w weld yn fynych ar Bobol y Cwm, er rhan amlaf fel lleoliad i ryw helynt neu’i gilydd – fel pan wnaeth yr Arweinydd ‘fenthyg’ o gronfa’r eglwys er mwyn prynu tafarn. Capel Annibynnol yw’r adeilad mewn bywyd go iawn hefyd – sef y Tabernacl, Efailisaf. 

Meithrin arbenigedd

Ond i ddod nôl i realiti. Bwriada’r BBC benodi tîm o newyddiadurwyr sydd ag arbenigedd ym maes crefydd i ohebu ar straeon ar draws y byd, ac i feithrin mwy o ddealltwriaeth grefyddol mewn eitemau newyddion. Mae hyn i’w groesawu’n fawr. Mae digon o le i ddechrau wrth ein traed yng Nghymru. Rhan o’m gwaith i’r Undeb fel Swyddog y Wasg yw ceisio esbonio statws eglwysi Annibynnol. Sawl tro y cefais yr ymholiad gan ohebydd “Beth yw barn yr Annibynwyr am briodi pobl hoyw?” Rwy’n gorfod esbonio wedyn bod gan bob cynulleidfa unigol ei barn ei hun – dyna pan rydym yn Annibynwyr! 

Anwybodaeth

Mae anwybodaeth yn bodoli hefyd am sefyllfa enwadaeth Gristnogol yn ein gwlad. Ers bron i ganrif does dim crefydd wladol yng Nghymru, ond mae’r Archesgob Anglicanaidd yn cael ei weld (neu ei gweld) fel pennaeth holl Gristnogion Cymru. Yn sicr, dyna’r argraff sy’n cael ei roi gan y Western Mail lle mae ceisio cael sylw i’n datganiadau a’n hymgyrchoedd ni fel Annibynwyr yn dalcen caled iawn. Ar y llaw arall, rhaid canmol y Daily Post am fod yn fwy deallus. A beth am Dechrau Canu Dechrau Canmol? Er bod cymaint o’r canu cynulleidfaol yn cael ei recordio mewn capeli, eglwysig yw’r delweddau dros y sig tunear ddechrau pob rhaglen. Gobeithio y bydd dathlu canfed pen-blwydd datgysylltu’r Eglwys yng Nghymru’r flwyddyn nesaf yn fodd i ddadansoddi’r sefyllfa a’r berthynas gydenwadol heddiw.

Cyfle gwerthfawr 

Dyma gyfle gwerthfawr i’r BBC i esbonio gwahanol statws Cristnogaeth yng ngwledydd Prydain – bod eglwys Lloegr yn rhan o’r sefydliad gwleidyddol yn y wlad honno. Mae Archesgob Caergaint a 25 o esgobion Seisnig yn eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi, gan drafod a phleidleisio ar faterion sy’n ymwneud â’r Deyrnas Unedig i gyd, er mai cynrychioli esgobaethau yn Lloegr yn unig y maent. Ers datgysylltu’r Eglwys yng Nghymru yn 1920, ni fu esgobion Cymreig yn ‘gwisgo’r carlwm’. Camarweiniol yw defnyddio’r ymadrodd am Brydain fel ‘gwlad Gristnogol’ am sawl rheswm. Gobeithio’n wir y bydd cynhyrchwyr y rhaglenni yn rhoi sylw i Anghydffurfiaeth Gymreig a’i gyfraniad i ddiwylliant a radicaliaeth wleidyddol, fel y gwnaeth Huw Edwards yng nghyfres ardderchog y BBC ar hanes Cymru. Os bosib na fydd lle i hynny rhywle ymhlith y 7,000 o oriau o ddarlledu crefyddol eleni? Cawn weld!