Arddangos Testament Newydd 1567

Posted on

MWY NERTHOL NA’R CLEDDYF

A ninnau newydd ddathlu 450 mlynedd ers cyhoeddi’r Testament Newydd yn Gymraeg, mae copi gwreiddiol i’w weld mewn arddangosfa bwysig yn Amgueddfa Sir Gâr yn Abergwili, ar gyrion Caerfyrddin. Lleolir yr amgueddfa yn hen Balas yr Esgob, lle cafodd y gwaith o drosi’r Testament ei gyflawni. Mae llyfr John Penri A Treatise Containing the Aequity of an Humble Supplication (1587) i’w weld yno hefyd.

Gwrthdaro Crefyddol  Copi o gyfieithiad William Salesbury yw canolbwynt arddangosfa o’r enw ‘Mwy nerthol na’r cleddyf: newid a gwrthdaro yn Sir Gaerfyrddin 1485 – 1714’ sy’n cynnwys Beiblau cynnar a llyfrau hynafiaethol o bwys. Mae’r casgliad yn adlewyrchu’r gwrthdaro rhwng safbwyntiau crefyddol yn yr 16ed  ganrif.  Mae cyfle prin i weld llyfr John Penry A Treatise Containing the Aequity of an Humble Supplication 1587 ochr-yn-ochr â Godly Treatise Robert Some 1588 sy’n ymateb i ddadleuon Penry.  Mae copi o Martyrs Fox yn cynnwys torluniau pren o ddienyddio’r Esgob Ferrar yng Nghaerfyrddin ac yn Y Ffydd  Ddiffuant parheir â’r thema gyda thorluniau pren o ferthyron gyda geiriau Cymraeg yn dod o’u geneuau.  Roedd Charles Edwards, yr awdur, yn cydweithio â Stephen Hughes a Thomas Gouge yn yr Ymddiried Gymreig i sefydlu ysgolion ar gyfer plant tlawd a hyrwyddo cynhyrchu llyfrau Cymraeg.

Allwedd Paradwys  Gellir gweld hefyd lyfr bychan iawn Allwydd neu Agoriad Paradwys i’r Cymru 1670.  Honnir ynddo iddo gael ei argraffu yn Liege, ond mewn gwirionedd fe’i argraffwyd  ar wasg gyfrinachol Gatholig, yn Llundain yn ôl pob tebyg.  John Hughes o Ynys Môn oedd yr awdur, gŵr wedi troi at y ffydd Gatholig ac yn byw yn Nhreffynnon lle y cei ei adnabod  fel y Tad Hugh Owen. Dangosir dwy gyfrol gan wŷr o Sir Gaerfyrddin a fu’n gweithio i ledaenu’r ffydd Brotestannaidd: The Practice of Pietie gan Lewis Bayly a gyhoeddwyd yn 1705 a Canwyll y Cymry’r Ficer Prichard 1659 – 81.  (Y chweched argraffiad 1715 a geir yma)

Geiriadur Pedair Iaith  Cyhoeddodd gŵr arall, James Howell, Lexicon Tetraglotton yn 1660, geiriadur pedair iaith, Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg ac Eidaleg sy wedi’i gyflwyno i Iarll Carbery, y gweler portread ohono gan Syr Peter Lely ar y wal gerllaw.  Roedd y portread hwn a phortread o’i wraig yn destun rhaglen deledu ddiweddar ‘Britain’s Lost Masterpieces’.  Rhoddodd yr Iarll nodded i Jeremy Taylor, y pregethwr a’r diwinydd enwog, ym mhlasty Gelli Aur yn nyffryn Tywi yn ystod y Rhyfel Cartref.  Yno ysgrifennodd nifer o weithiau pwysig fel Golden Grove, arweiniad manwl i fywyd beunyddiol Cristion.

Yn rhan ola’r arddangosfa gellir gweld Geiriadur y Dr. John Davies, Mallwyd.  Mae’n debyg ei fod yn un o’r mwyaf o’r dyneiddwyd Cymreig ac mae copi hwn o’i Dictionarum  Duplex 1632, sy ag ôl traul mawr arno, yn un o drysorau’r Amgueddfa.

Mae’r arddangosfa ymlaen tan y Pasg. Oriau agor yr amgueddfa: Dydd Mawrth-Dydd Sadwrn, 10.00-4.30.

Abergwili, Caerfyrddin SA31 2JG