Angen mwy na bloeddio ‘Heddwch!

Posted on

Mewn araith rymus a heriol o lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, fe wnaeth Llywydd y Brifwyl y Parchg Ddr R. Alun Evans – sydd hefyd yn Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg – alw ar y genedl i gefnogi sefydlu Academi Heddwch i Gymru. Byddai hynny’n fodd i greu cymdeithas ddi-drais, meddai. Dyma grynodeb o’r araith.

R ALUN Llywydd screen shotMae Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol, ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn wyliau sy’n gwareiddio byd anwaraidd, meddai’r Llywydd. Ond nid yw bloeddio ‘Heddwch!’ yn ddigon. Rhaid credu yn y ddelfryd o heddwch hefyd.

“Ganrif union yn ôl, yn Awst 1915, fe gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor. Am y tro cyntaf yn ei hanes fe hepgorwyd y ddefod o dynnu’r cleddyf o’r wain a’r floedd am “Heddwch!” Yn ei le cafwyd araith fywiog am fedrusrwydd y milwr Cymreig. Yn llywyddu, yn ei lifrau milwrol, r’oedd y Brigadier-General Owen Thomas. Meddai adroddiad ar y pryd: “Thomas roused his fellow countrymen to a pitch of patriotic fervour that should have brought fruit outside the pavilion where recruting officers were busy. Mae nhw’n dal yn ‘busy’ yn ein hysgolion ni. Mae ‘na recriwtio mewn 74% o ysgolion Cymru gan y fyddin.”

Cymru ar y blaen

Wrth droi i sôn am Academi Heddwch, dywedodd R.Alun Evans bod y Cynulliad yn cefnogi’r syniad ar egwyddor a bod miliwn o bunnau wedi’i sicrhau o’r Gronfa Treftadaeth.

“Mae sawl Academi Heddwch ledled y byd ond Academi Heddwch Cymru fydd y cyntaf yn y Deyrnas Unedig. Fe fydd Cymru ar y blaen. Sefydliad annibynnol fydd Academi Heddwch Cymru, i baratoi, hyrwyddo a dosbarthu gwybodaeth wrthrychol a thrylwyr ar faterion yn ymwneud â heddwch, cyfiawnder, hawliau dynol a chynaliadwyedd yng Nghymru a thu hwnt; Academi fyddai’n ganolfan rhagoriaeth i baratoi a chyflwyno gwybodaeth fanwl a fyddai’n cyfrannu at ddatblygu cymdeithas fwy cyfiawn er budd holl bobl a sefydliadau Cymru, a chyfrannu at ddealltwriaeth o hanes Cymru mewn perthynas â heddwch mewn cyd-destun byd-eang. Fe all academi o’r fath, a’i ymchwil o ansawdd uchel, fod o gymorth nid yn unig i Gynulliad ond hefyd i Awdurdodau Lleol. Fe all ddatblygu i fod yn ffynhonnell adnoddau, ac yn fodd i gynhyrchu defnyddiau i ysgolion ac Ysgolion Sul ar bynciau fel ‘eithafiaeth’, ‘effaith bwlio ar blant’ a ‘thrais yn y cartref.’ Mae’r potensial yn bod i ymestyn y traddodiad radicalaidd, heddychol a thraws-bleidiol mewn cyd-destun Cymreig.

Byddwn yn bositif

“Y bwriad yw bod yn bositif. Rydym mewn perygl wrth son am heddwch o fod yn negyddol – rhyw brotest yn erbyn rhyw bethau o hyd. Mae pwyslais yma yn wahanol. Hanfod yr Academi yw bod yn greadigol, cael heddwch yn ein cartrefi, heddwch ar ein strydoedd, heddwch yn rhyngwladol. A hwnnw yn heddwch o ansawdd mewn cymdeithas sydd yn credu o ddifri mewn bod yn ddi-drais. Rwy’n galw ar y Brifwyl, yr Urdd a Llangollen a’r Llywodraeth i wneud popeth posib i helpu i godi’r ymwybyddiaeth o’r hyn y gall sefydliad fel yr Academi Heddwch ei chreu. Fe fydd Cymru ar ei hennill. Gyfeillion! dewch i’r frwydr – dros heddwch.”