Tybed oeddech chi’n gwybod mai enw ynys Madagascar mewn Malagaseg yw Madagasikara?

Mae’r llythyren ‘i’ yn yr enw yn cael ei hynganu’n ysgafn iawn, ac i bob pwrpas yn diflannu o’r gair yn yr un ffordd ag y mae’r ‘w’ yn diflannu allan o’r gair ‘marwnad’ yn y Gymraeg.

Ym 1818, hwyliodd cenhadon o Gymru i Fadagascar  a sefydlu ysgolion a chenhadaeth Gristnogol. Ddaucanmlynedd yn ddiweddarach, mae pobl Madagascar a Chymru yn cofio hynny, ac yn dathlu gyda’i gilydd.

 


 

Byddwn yn clywed llawer am yr FJKM yn ystod blwyddyn yr Apêl. Beth yw ystyr y llythrennau?

Ateb: ‘Fiangonan’i Jesoa Kristy eto Madagasikara’, sef, ‘Eglwys Iesu Grist yn Madagascar’ mewn Malagaseg.

 

 


Y Goeden Baobab

Mae’r baobab yn goeden o bwys yn Madagascar. Gelwir hi’n ‘Goeden Bywyd’, a gwarchodir hi’n ofalus. Gan ein bod yn awyddus i’w mabwysiadu fel logo ar gyfer dathliadau 2018, a’r apêl fydd yn cael ei lansio ym mis Mehefin, dyma holi’r Dr Hefin Jones, Caerdydd, amdani. Dyma’r hyn a ddywedodd wrthym:

 

‘Ceir naw rhywogaeth o’r goeden baobab yn y rhan honno o’r byd y perthyn Madagascar, gyda chwech ohonynt yn frodorol i’r ynys.  Fel Adansonia yr adnabyddir hi fel arfer gan fotanegwyr, a hynny ar ôl y naturiaethwr a’i disgrifiodd gyntaf – Ffrancwr o’r enw Michel Adanson.

Gair Ethiopaidd, neu o leiaf Affricanaidd, yw baobab, yn golygu coeden a boncyff trwchus, blodau gwyn a ffrwyth sy’n fwytadwy. Roedd y goeden yn bodoli cyn i Fadagascar dorri i ffwrdd oddi wrth y tir mawr, a dyna pam y mae gennym rywogaethau brodorol.

Mae un o’r rhywogaethau – Adansonia digitate – yn cael ei galw’n ‘eicon o dir perthog Affrica’, ond yr un a gysylltir amlaf â Madagascar yw Adansonia grandideri, y mwyaf a’r enwocaf o goed yr ynys. Gall dyfu i uchder o 25-30 metr (100 troedfedd), a mesur rhyw 3 metr (10 troedfedd), a mwy, ar draws ei boncyff. Mae’r coed yn sicrhau cysgod, bwyd a dŵr i anifeiliaid a’r hîl ddynol, fel ei gilydd, ac adeilada llawer o gymunedau y safanna yn Affrica eu cartrefi yn agos atynt.

Mae eu gallu i storio dŵr yn eu boncyffion yn rhyfeddol, gyda rhai ohonynt yn cynnwys cymaint â 30,000 o alwyni. Galluoga hyn hwy i oroesi sychder mawr. Coed collddail ydynt; colli eu dail yn ystod y tymor sych rhag iddynt golli dŵr trwy drydarthiad.

Y maent, wrth reswm, yn gynefin pwysig i adar nythu, yn arbennig pedair rhywogaeth o wehyddion a’r gynffonbigog brych.

Mae ffrwyth y baobab tua maint cneuen goco  gyda blas ‘sherbert’. O’i sychu, mae’r powdwr yn uchel mewn pectin, calsiwm, magnesiwm, potasiwm, haearn – a Fitamin C, a hynny chwe gwaith cymaint ag oren o’r un maint! Gellir ei ddefnyddio fel  tewychwr mewn cawl a jamiau, fel melysydd mewn diodydd, ac i roi ‘mymryn bach o gic’ mewn saws!  Defnyddir y ffrwyth sych hefyd mewn rhai ardaloedd i eplesu wrth wneud cwrw, ac ers 2008 mae’r powdwr wedi’i drwyddedu gan y Gymuned Ewropeaidd fel cynhwysyn defnyddiol a diogel yn ein bwyd ninnau.

Defnyddir rhai rhywogaethau baobab fel ffynhonnell ffibr, lliwiau a thanwydd.  Defnyddir y ffibr i wneud toau tai.

Ymhellach, mae rhai o’r rhywogaethau, gan gynnwys Adansonia grandideri, mewn perygl; mae eu niferoedd yn disgyn yn gyflym wrth i dir amaeth gynyddu. Yn 2003 cafwyd datganiad gan Arlywydd Madagascar yn dweud bod angen cynyddu nifer y coed deirgwaith i osgoi difodiant rhai o’r rhywogaethau. Er eu holl rinweddau, maent dan fygythiad.

Mae’r goeden wedi chwarae rhan bwysig yn niwylliant ysbrydol Affrica. Fe’i gelwir, fel y nowyd, yn ‘goeden bywyd’, yn ‘goeden bara mwnci’ ac yn ‘goeden ben i waered’. Mewn rhai traddodiadau ar dir mawr Affrica cleddir teuluoedd o amgylch y coed, a hynny oherwydd y gred bod y coed yn hydreiddio gydag eneidiau’r rhai a gladdwyd. Wrth fwyta’r ffrwyth wedyn, daw ynni a nerth y cyndeidiau yn ôl i’r gymuned.

Mae rhywogaeth y goeden baobab yn hŷn na’r ddynoliaeth. Gall coeden fyw i fod tua 5,000 mlwydd oed! Ac fel y gŵyr y rhai ohonom sy’n hoffi mynd i’r sinema, daeth y goeden fawr o Fadagascar yn enwog yn y ffilm, The Lion King. Hi oedd coeden Rafiki, y mwnci.

Mae defnyddio’r pren hwn, Coeden Bywyd, yng nghyd-destun dathliadau 2018 a’r apêl i godi arian i Fadagascar, yn gwbl briodol.  Oes, mae i’r goeden gysylltiadau â’r byd ysbrydol ond, a dweud y gwir, pa genedl neu draddodiad sydd heb gysylltiad â rhywbeth tebyg yn ei hanes?

Mae’n hanes ni fel Cymry yn frith o’r math hwn o beth, sydd ddim ond yn dangos mai un yw’r teulu dynol, ac mai brodyr a chwiorydd i ninnau yn ein cyfeillion yn Madagascar.’

Dr Hefin Jones

Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd