Addysgu’r wasg am grefydd

Posted on

Mae crefydd yn rym pwerus ym mywydau pobl yn unigol ac ar raddfa fydeang. Ond ydyw materion crefyddol yn cael sylw dyledus a theg gan y wasg a’r cyfryngau, sydd hefyd â grym mawr? Faint o anwybodaeth sydd am y sefyllfa grefyddol yng Nghymru a ledled y byd? Dyna’r math o gwestiynau a drafodwyd yn y gynhadledd gyntaf o’i bath, lle daeth cynrychiolwyr crefyddol wyneb yn wyneb â llond ystafell o newyddiadurwyr profiadol. ALUN LENNY aeth i ffau’r llewod ar ran Undeb yr Annibynwyr.

alun-nuj_edited-1Fy ngwaith pennaf fel Swyddog y Wasg i’r Undeb yw ceisio rhoi llais i’n gwaith a’n cenhadaeth ni fel Annibynwyr. Fe all hynny gynnwys esbonio pwy ydym ni, bod pob cynulleidfa yn annibynnol, ein bod yn “bobl capel” ac nad ydym yn “dod o dan” Archesgob Cymru. Mewn geiriau eraill, rwy’n aml yn cael fy hun yn gorfod goleuo gohebwyr am amrywiaeth a natur y gymuned ffydd a chred yng Nghymru. Mae Undeb y Newyddiadurwyr – yr NUJ – yn cydnabod diffyg dealltwriaeth gyffredinol ei aelodau ar faterion crefyddol. Am fod crefydd yn llywio (ac yn lliwio) cymaint o wleidyddiaeth a gwrthdaro yn y byd, mae bod yn “grefyddol lythrennol” yn hanfodol i newyddiadurwyr, cred yr NUJ.

Cael y wasg a’r cyfryngau i gydnabod eu gwendid a dechrau trafodaeth am sut i ddatblygu agweddau mwy deallus tuag at faterion crefyddol oedd bwriad y gynhadledd “When Religion Makes the News” ym Mae Caerdydd. Roedd golygyddion, cynhyrchwyr radio a theledu a gohebwyr blaenllaw ymhlith y trigain a mwy yn y gynulleidfa. Yn anorfod, roedd y grefydd Islamaidd yn cael lle blaenllaw yng nghyd-destun yr helyntion mawr yn y byd ar hyn o bryd, ond fe gafodd y llais Annibynnol ei glywed hefyd!

nuj-torf

Y gynulleidfa, gydag Aaqil Ahmed, Pennaeth Adran Crefydd a Moeseg y BBC ar y dde yn y rhes flaen.

Pwy Ydym Ni?

Roeddwn yn aelod o banel o bump, ynghyd â chynrychiolwyr o’r Eglwys Babyddol, yr Eglwys yng Nghymru, y Bwrdd Iddewig a Chyngor Islamaidd Cymru. Yn llywio’r drafodaeth oedd Roger Bolton, cyn-olygydd Panorama a chyflwynydd Sunday ar Radio 4.

Pan ofynwyd i mi pwy oedd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, esboniais fod tua 430 o eglwysi’n perthyn i’r Undeb, a bod y mwyafrif llethol o’n haelodau yn byw ac yn addoli trwy gyfrwng y Gymraeg. “How many Welsh-speakers are there, about 80,000?” holodd Roger. Atebais bod ymhell dros hanner miliwn ohonom – ffaith a’i synnodd! Cyfaddefodd ei fod wedi meddwl am nifer y rhai sy’n siarad Gaeleg yn yr Alban.

Wrth grynhoi’r sefyllfa enwadol yng Nghymru yn fyr iawn, esboniais fod gan y prif enwadau anghydffurfiol – Annibynwyr, Bedyddwyr a Phresbyteriaid – tua 1,500 o gapeli, sef tua’r un rhif ac eglwysi plwyf. Mae tua hanner y bobl sy’n addoli ar y Sul yng Nghymru yn mynd i eglwys a’r hanner arall i gapel.

Wrth droi at natur yr achos Annibynnol, esboniais mai’r gynulleidfa leol, o dan arweiniad yr Ysbryd Glân, yw’r unig awdurdod. Nid oes gennym hierarchaeth esgobol, a gwasanaethu’r gynulleidfa mae’r gweinidog yn ei wneud, nid ei rheoli. “Ar y diwrnod hwn yn enwedig,” dywedais “gyda phobl America’n pleidleisio am arlywydd newydd, mae’n werth cofio mai Annibynwyr oedd nifer o’r bobl arwyddodd Datganiad Annibyniaeth America, a bod yr egwyddor anghydffurfiol o wahanu eglwys a gwladwriaeth yn rhan bwysig o’r datganiad hwnnw.”

roger-boltonYmgyrchoedd yr Undeb

Cefais gyfle i esbonio ychydig am yr ymgyrchoedd rydym wedi eu cynnal fel Undeb dros gyfiawnder. Cyfeiriais at ein hymgyrch i warchod hawliau siaradwyr mewn cartrefi preswyl, a’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth ‘Mwy Na Geiriau,” sy’n mynnu darpariaeth ar gyfer siaradwyr Cymraeg ym meysydd gofal a iechyd. Soniais hefyd am ein rhan fel Undeb yn ysgogi sefydlu’r strwythur cydenwadol i lunio ymateb i’r bleidlais i adael yr UE, a’r ffaith bod tystiolaeth eisoes wedi’i roi i ddau bwyllgor dethol. Hyn, am ein bod yn credu mewn gweithredu ein ffydd mewn modd ymarferol trwy warchod hawliau dynol, hawliau gweithwyr, hawliau’r anabl ac ati yn ystod y cyfnod hynod anodd sy’n arwain at Brexit.

Creu ein Cyfryngau

Mewn ateb i gwestiwn gan Roger Bolton (uchod), cytunais ei bod hi’n anodd cael y wasg i ymddiddori mewn ambell stori y byddwn i – fel newyddiadurwr fy hun – yn tybio sydd o ddiddordeb. Mewn oes Olfodern, lle mae llais y lleiafrif i fod i gael llwyfan, mae hyn yn gallu bod yn siom.  Felly, esboniais fod yr Annibynwyr wrthi’n creu ein strwythur cyfathrebu ein hunain, wedi sefydlu tair uned ffilmio, wedi troi rhan o’n swyddfeydd yn Nhŷ John Penri yn stiwdio radio a theledu, ac yn defnyddio fideos YouTube a chyfryngau cymdeithasol eraill i gyrraedd ein haelodau a’r cyhoedd yn gyffredinol. Hyd y gwelwn, roedd y gynulleidfa’n “impressed”!

Teimlaf i ni fanteisio ar gyfle gwerthfawr iawn i esbonio wrth unigolion blaenllaw o’r wasg a’r cyfryngau pwy yw’r Annibynwyr Cymraeg ac am ein gweithgarwch yn y maes Cristnogol yng Nghymru.