Camu ymlaen yn y Bala

Posted on

Rydym yn byw mewn cyfnod lle mae’r gynulleidfa mewn sawl capel yn ei chael hi’n fwyfwy anodd i gynnal a chadw adeiladau mawr tra bod yr aelodaeth yn lleihau. Gall y gost ariannol fod yn faich ac yn ofid mawr i’r aelodau. Mae angen dewrder i gydnabod y sefyllfa a gweledigaeth i gynnal yr achos mewn lleoliadau gwahanol, ar ôl ystyriaeth drylwyr. 

Parchg Carwyn Siddall

Yn dilyn proses o drafod gweddigar o’r fath mae Annibynwyr y Bala wedi gwneud penderfyniad doeth a dewr, sydd ar yr un pryd yn un cyffrous. Yn wyneb gorfod gwario arian mawr iawn ar waith i gynnal a chadw’r capel a’r festri, penderfynwyd gadael yr adeilad Gradd II a fu’n gartref i’r achos Annibynnol yn y dre ers 150 o flynyddoedd. 

Cwrdd Eglwys i ddwys ystyried

“Yn sgil cyfnod o drafod, o ystyried ac o weddïo, daeth hi’n amlwg nad oedd hi’n ymarferol bosib inni wneud y gwaith,” meddai’r gweinidog, y Parchg Carwyn Siddall. “Cafwyd Cwrdd Eglwys i ddod i benderfyniad. Teimlwyd nad oedd modd cyfiawnhau gwario swm chwe ffigwr ar yr adeilad. Fe allem fod wedi ymgeisio am grantiau i gwrdd â’r costau, ond mae’r rheini yn prinhau ac yn cymryd amser i’w prosesu. Teimlwyd mai dirywio ymhellach fyddai’r adeilad yn ystod y cyfnod aros, a hynny heb unrhyw sicrwydd y byddai cais yn llwyddo. Roedd yr adeilad bellach, er gwaethaf yr hanes, yr atgofion a’r cysylltiadau, wedi dod yn fwrn ac yn boen meddwl, a hynny ar brydiau yn dwyn ein sylw oddi wrth ein gwir fwriad a’n cenhadaeth sef addoli’r Arglwydd a thystio iddo,” meddai’r Parchg Siddall. 

Yr Achos i barhau

Gan ei bod yn eglwys o thua 100 o aelodau, roedd pawb yn cytuno na ddylid dirwyn yr achos i ben, ond yn hytrach ffarwelio â’r capel a fu’n gartref iddi ers canrif a hanner. Yn naturiol, roedd yna deimladau o dristwch a chwithdod yn ogystal â chyffro wrth gamu i’r dyfodol. Rhaid oedd penderfynu wedyn lle i fynd. Treuliwyd amser yn ystyried gwahanol opsiynau, a phenderfynwyd defnyddio adeilad Eglwys Gatholig y dref i addoli, gan nad oes oedfa yno ar fore Sul. Cynhaliwyd yr oedfa gyntaf ar Ionawr 6ed. Adeilad syml fu gynt yn ysgubor yn y brif stryd ydyw. Llwyddwyd hefyd i sicrhau swyddfa yng Nghanolfan Henblas y Bala, sydd yn yr un stryd. 

Camu ymlaen mewn ffydd

“Ein gobaith yw y bydd y swyddfa yn dod yn ‘base’inni,” meddai’r Parchg Siddall. “Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnig ystafelloedd cyfarfod a chynadledda gyda chysylltiadau linc fideo ac yn y blaen. Bydd yn le cyfleus i ni gynnal cyfarfodydd, tra bod ein hoedfaon, fel eglwys Annibynnol, yn cael eu cynnal yn yr eglwys Gatholig. Yn naturiol, ‘does neb yn gwybod sut bydd hyn yn gweithio, ac felly byddwn yn ail edrych ar ein sefyllfa yn yr haf. Ond credwn mai camu mewn ffydd yr ydym gan hyderu fod yr Arglwydd yn dod hefo ni.”