Ymlaen at y miliwn

Posted on

Mae gan yr Annibynwyr Cymraeg gyfraniad pwysig i’w wneud i’r gwaith o sicrhau bod miliwn o bobl yn siarad yr iaith erbyn y flwyddyn 2050, meddai Comisiynydd y Gymraeg. Wrth annerch Cyngor yr Undeb yng Ngregynog dywedodd Meri Huws bod cyfle gwych i ddefnyddio adnoddau a brwdfrydedd aelodau i gyflwyno’r iaith i bobl ddi-gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru. Mae’r Undeb nawr am lunio strategaeth i annog a galluogi ei 430 o eglwysi i ymuno yn yr ymgyrch.

Rhwydwaith Merched yr Undeb fydd yn gyfrifol am arwain y strategaeth iaith. “Mae dwy agwedd i’r ymgyrch newydd hon,” esboniodd y Parchg Jill-Hailey Harries, cydlynydd y Rhwydwaith. “Yn gyntaf, mae angen i ni fel Annibynwyr i fod yn ymwybodol o bob ymgynghoriad swyddogol sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg ac i ymateb trwy roi tystiolaeth fel unigolion ac eglwysi. Er enghraifft, ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i dderbyn sylwadau ar ddatblygu a gweithredu strategaeth ddementia genedlaethol. Mae hynny’n cynnwys darparu gofal trwy gyfrwng y Gymraeg i gleifion sydd angen y gofal hwnnw.”

“Yn ail, rydym wedi dechrau trafod sut y gallwn defnyddio’n hadnoddau, yn adeiladau a phobl, i hybu’r ymwybyddiaeth a’r defnydd o’r Gymraeg ar lawr gwlad. Rydym yn paratoi rhestr o weithgarwch y byddai’n hollol ymarferol i’n haelodau gynnal mewn gapel neu festri – popeth o fore coffi i sgyrsiau am hanes a diwylliant lleol.”

Pwysleisiodd Meri Huws bwysigrwydd agor y drws i bobl sy’n dysgu Cymraeg – yn blant ac oedolion. “Rhaid peidio bod yn rhy uchelgeisiol, ond gwneud pethau naturiol sy’n llwyddo,” meddai. “Er enghraifft, yn ystod hanner tymor beth am ystyried darparu gweithgarwch i blant trwy agor festrïoedd?”

Yn ôl Glyn Williams, Llywydd yr Undeb, mae hwn yn brosiect allai symud pethau ymlaen. “Bu sylwadau’r Comisiynydd yn fodd i’n sbarduno ni. Mae’r Gymraeg yn allweddol fel cyfrwng iaith ein haddoliad ni, ac mae’n hanfodol ei bod yn parhau felly o Sul i Sul. Ond rhaid i ni hefyd ymestyn tu allan i furiau capel. Bydd yn fodd i bobl sylweddoli beth mae Undeb yr Annibynwyr yn ceisio’i wneud dros gymunedau yng Nghymru heddiw.”