Bwriad y Rhwydwaith Merched yw addysgu, gwasanaethu ac ymgyrchu, gan ysgogi grwpiau lleol i weithredu mewn gwahanol ffyrdd. Mae gan y Rhwydwaith Merched botensial mawr, o godi ymwybyddiaeth am bynciau i fagu cysylltiadau a chefnogi mentrau arbennig.

Nod y Rhwydwaith Merched yw cysylltu grwpiau sy’n cyfarfod o gwmpas y wlad â’i gilydd, gan rannu newyddion, adnoddau a syniadau.

Er mwyn i’r rhwydwaith weithio’n fwy effeithiol fe ofynwyd i bob cyfundeb benodi person cyswllt er mwyn iddynt dderbyn newyddion yn rheolaidd ac i adrodd yn ôl at y rhwydwaith am unrhyw weithgarwch lleol. Y gobaith yw y bydd cael person cyswllt ym mhob rhan o’r wlad yn atgyfnerthu’r rhwydwaith, sydd esioes wedi bod yn cefnogi ymgyrchoedd llwyddiannus


Diwrnod Y Rhuban Gwyn 2023

Dyma weddi arbennig a baratowyd ar ran y Rhwydwaith gan y Parchg Casi Jones, gyda dynion a bechgyn o wahanol gefndiroedd yn dangos eu hymrwymiad i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben.


Parch gan Menna Elfyn

Cerdd wreiddiol gan Menna Elfyn er cof am ei thad Y Parchg. T Elfyn Jones.


Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022

Mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar yr 8fed o Fawrth a diolch i Menna Elfyn am rannu ei cherdd newydd gyda ni eleni, sef 'Stafelloedd', sy'n cynnwys tair cenhedlaeth o fenywod.

Daw'r gerdd o'i chyfrol newydd 'Tosturi'.

Meddai Menna:

'Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn tynnu sylw at fywydau merched, gwragedd o bob oed a’r heriau sy’n eu hwynebu yn ddyddiol. Er i’r diwrnod gychwyn 'nôl yn 1907 gyda phrotest am amodau gwaith tecach i ferched yn Efrog Newydd a’r galw am yr hawl i bleidleisio, mae llawer o genhedloedd ar draws y byd yn parhau i wrthod hawliau sylfaenol i ferched. '


Ymgyrch Cefnogi Ceiswyr Lloches

Yn ystod 2019–20 nod y rhwydwaith oedd cefnogi ceiswyr lloches yng Nghymru gan hyrwyddo’r gwaith sydd eisioes yn digwydd i gynnig llety a chroesawu’r bobl â’u teuluoedd i’n plith. Dyma glip o Elin Jones, AC, yn rhoi sêl bendith i’r ymgyrch.

Fe fu’r rhwydwaith ynghlwm ag elusennau yn erbyn trais domestig, ac mae nifer o’r grwpiau yn parhau i gasglu nwyddau defnyddiol i lochesi a chanolfannau. Fe lansiwyd ymgyrch i gefnogi menter Llywodraeth Cymru i annog miliwn o bobl i siarad Cymraeg erbyn 2050 hefyd. Yn ystod blwyddyn Apêl Madagascar (2018–19) bu’r rhwydwaith yn benodol yn cefnogi lloches i ferched ym mhrifddinas Madagascar, sef Antananarivo.


 

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.