Croeso i dudalen Y Ffordd!

Bwriad Y Ffordd yw helpu pobl i drafod themâu Cristnogol, er mwyn cryfhau eu ffydd a’u hyder, a’u galluogi i rannu’r Efengyl ac ymestyn allan i’w cymunedau.

Anogir pobl i gyfarfod â’i gilydd mewn grwpiau bychan i ddilyn Y Ffordd, gan mai felly y ceir blas ar yr hyn sydd yn y fideo. Dylid defnyddio’r clipau gyda’r deunyddiau print sydd hefyd wedi eu paratoi fel rhan o’r cynllun.

Mae cynllun Y Ffordd yn ymestyn dros bedair blynedd, gyda phedair rhan i bob blwyddyn.

 

1.png

Y Ffordd 1.1

2.png

Y Ffordd 1.2

3.png

Y Ffordd 1.3

4.png

Y Ffordd 1.4

5.png

Y Ffordd 2.1

Dyma bennod gyntaf o ail flwyddyn cwrs Y Ffordd. Archwilio hanes yr Annibynwyr yw thema'r bennod hon, gan ddechrau yn y Diwygiad Protestannaidd 500 mlynedd yn ôl.

Lawrlwytho Adnoddau

Lawrlwytho Fideo

6.png

Y Ffordd 2.2

7.png

Y Ffordd 2.3

Mae'r bennod hon yn ymdrin â sut y dylem berthyn i'n gilydd fel Cristnogion, yn enwedig yng nghyd-destun yr Eglwys, y Cyfundeb, Yr Undeb ac enwadau eraill.

Lawrlwytho Adnoddau

Lawrlwytho Fideo

8.png

Y Ffordd 2.4

9.png

Y Ffordd 3.1

Pennod gyntaf y drydedd flwyddyn. Thema'r bennod yw Cenhadaeth, ac mae'n cynnwys trafodaeth ar beth yw cenhadaeth Gristnogol, a'r Pum Pwynt Cenhadol sef dweud, dysgu, tendio, trawsnewid, a thrysori.

Lawrlwytho Adnoddau

10.png

Y Ffordd 3.2

Beth yw Efengylu? Sut mae efengylu yng Nghymru heddiw? Dyma rai o'r themau sy'n cael eu trafod yn y bennod hon.

Lawrlwytho Adnoddau

11.png

Y Ffordd 3.3

Yn y bennod hon ceir trafodaeth ynglyn â phartneriaethau â'r Eglwys fyd-eang, a'r fendith i'r eglwys leol ac i Gristnogion. Dyma drydedd bennod o drydedd flwyddyn cwrs Y Ffordd.

Lawrlwytho Adnoddau

12.png

Y Ffordd 3.4

Fideo yn archwilio'r berthynas rhwng Cymru a Madagascar ac yn trafod ei dyfodol yng ngoleuni gwaith y Cenhadon Cymreig 200 mlynedd yn ôl.

Lawrlwytho Adnoddau

13.png

Y Ffordd 4.1

Dyma bennod gyntaf y gyfres olaf, yn canolblwyntio ar heddwch a chyfiawnder. Cawn gyfraniadau gan Arfon Jones, beibl.net sy'n trafod y seiliau Beiblaidd i gyfiawnder a heddwch. Guto Prys ap Gwynfor ac Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, Dyfrig Rees sy'n olrhain hanes heddychiaeth yng Nghymru a'i phwysigrwydd i ni heddiw.

14.png

Y Ffordd 4.2

Dyma ail bennod y gyfres olaf, sydd yn canolbwyntio ar Gyfiawnder a Heddwch. Yn y bennod hon ceir cyfraniadau gwerthfawr gan y Dr Fiona Gannon o weithgor Economi Bywyd yr Undeb a'r Parchg Gethin Rhys, Cytûn. Mae'r ddau yn trafod pwysigrwydd brwydro dros gyfiawnder a heddwch yn ein cymunedau a'n gwlad, ac er mwyn y greadigaeth.

15.png

Y Ffordd 4.3

Pennod olaf cyfres y Ffordd, yn canolbwyntio ar gyfiawnder a heddwch. Yn y bennod hon cawn drafodaeth am ofal, gan ystyried eglwysi Dementia-gyfeillgar, gwaith bugeilio mewn cartrefi gofal, gofalu am yr anghenus o fewn cymdeithas a rôl caplaniaid yn yr Heddlu.

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.