Gwaith Y Cyngor

Ar Fawrth y 14eg eleni bydd Y Cyngor yn cyfarfod yng nghanolfan Medrus, Aberystwyth i drafod gwaith y Cyngor a'i adrannau.  Dyma'r ail dro i aelodau'r Cyngor gyfarfod wyneb yn wyneb ers cyfnod Covid-19, pan gynhaliwyd y cyfarfodydd yn rhithiol.

Dafydd Roberts yw Cadeirydd y Cyngor.

Aelodau’r Cyngor yw dau gynrychiolydd o bob Cyfundeb (cyfanswm o 30), swyddogion a staff yr Undeb (hyd at 10),  swyddogion y pedair Adran (hyd at 8) a rhai wedi’u hethol gan y Gynhadledd (hyd at 6).  Mae hyn yn golygu bod hyd at 55 o bobl yn gallu mynychu’r Cyngor.

Dafydd-Roberts-2018-768x667-1.jpg
Cadeirydd y Cyngor

Dafydd Roberts

Etholwyd Mr Dafydd Roberts yn Gadeirydd y Cyngor yn 2017. Yn enedigol o Drefor yng Ngwynedd, gwasanaethodd yr eglwysi yn ei ardal fel Pregethwr Cynorthwyol a bu’n aelod ffyddlon ac yn gyfanwr cyson i weithgareddau’r Cwrdd Chwarter yn Llŷn ac Eifionydd. Ef bellach yw Cadeirydd y Cyfundeb. Ym myd yswyriant y mae Dafydd yn gweithio. Mae’n aelod ac yn ddiacon yn eglwys Maesyneuadd yn Nhrefor, ac wedi bod yn gefnogwr selog i’r Undeb ar hyd y blynyddoedd.

image001.jpg
Cenhadaeth a'r Eglwys Fyd-Eang

Jill-Hailey Harries

Jill-Hailey Harries sy'n arwain yr adran Genhadaeth a’r Eglwys Fyd-Eang .  Mae'r adran yn gweithio â phartneriaid fel CWM (Cyngor y Genhadaeth Fyd-Eang) ynghyd â gwaith ecumenaidd yng Nghymru. 

Owain Llyr.jpg
Yr Eglwysi a'u Gweinidogaeth

Owain Llŷr Evans

Mae Owain Llŷr Evans yn weinidog ar eglwys Minny Street yng Nghaerdydd ac yn arwain adran yr Eglwysi a’u Gweinidogaeth.  Mae eu gwaith yn cynnwys datblygu ac annog arweinwyr o fewn eglwysi, bugeilio, diogelu a gwaith y Cyngor Ysgolion Sul.

Euron Hughes.jpg
Tystiolaeth

Tystiolaeth

Yn rhinwedd ei waith fel Cadeirydd yr adran Dystiolaeth, mae Euron yn arwain trafodaethau am efengylu, yn ddigidol a wyneb yn wyneb, gan gynnwys cyfleuon ar Faes y Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Emlyn Davies.png
Dinasyddiaeth Gristnogol

Emlyn Davies

Ymhlith gorchwylion yr adran Dinasyddiaeth Gristnogol, mae Emlyn Davies yn arwain trafodaethau ar waith yr Undeb a'i bartneriaid yn Madagascar, datblygu eglwysi 'Dementia-gyfeillgar', Cymorth Cristnogol a gweithgor 'Economi Bywyd a Newid Hinsawdd'.

Mae pob aelod yn perthyn i ddwy o’r Adrannau o fewn y Cyngor. Yr Adrannau yw: Cenhadaeth a’r Eglwys Fyd-EangDinasyddiaeth GristnogolEglwysi a’u GweinidogaethTystiolaeth Gristnogol.Y Pwyllgor Gweinyddol sy’n gyfrifol am gyllid yr Undeb, ac y mae pwyllgor arall yn gofalu am y buddsoddiadau.

Yr Adrannau

Bydd yr Adrannau yn trafod pynciau sy’n berthnasol i’w meysydd hwy ac, yn dilyn y trafodaethau, yn cyflwyno argymhellion i’r Cyngor llawn. Wedi hynny, bydd y Pwyllgor Gweinyddol a’r Cyfarfodydd Blynyddol yn derbyn adroddiadau o holl weithgareddau’r Cyngor a’i Adrannau.

Yn y Cyngor y digwydd y rhan fwyaf o’r trafodaethau manwl ar bynciau ysbrydol, cenhadol, cymdeithasol a bugeiliol yr Undeb.

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.