Mynd i’r Afael â Theroristiaeth

Posted on

Dyma anerchiad gan lywydd y Rhwydwaith Heddwch, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, a draddodwyd yng Nghapel Tegid, y Bala fis Mehefin 2017 yn dilyn terfysgaeth  yn ninasoedd Llundain a Manceinion.

Mae’r ymateb i ddigwyddiadau yr wythnosau diwethaf yma wedi bod yn fêl ar fysedd y rheini sy’n cynllwynio gweithredoedd terroristaidd. Mae saethu’n farw y tri yn Llundain wedi creu rhagor o ferthyron yr union beth yr oeddent yn ei ddymuno. Mae cynnig Theresa May (ddydd Mercher, Mehefin 7fed) i roi heibio’r cyfreithiau rhyngwladol ynglŷn â hawliau dynol, gosod milwyr ar y strydoedd, arfogi mwy o heddlu a’u cael i fannau cyhoeddus fel Maes Eisteddfod yr Urdd, yn gweithredu mewn modd sy’n dangos i’r darpar derrorist eu bod yn ennill. Mae e hefyd yn creu awyrgylch o normaleiddio a mawrygu ffordd trais, mae’n cyhoeddi mai trwy ddefnydd o drais yn unig y gellid gwrthsefyll y ffieidd-dra a brofwyd ym Manceinion a Llundain yn ddiweddar. Mae’r holl alaru cyhoeddus a’r sylw eithriadol a geir ar y cyfryngau yn helpu i greu’r hinsawdd y mae’r terrorist yn mofyn ei greu – ofn, casineb, dialedd.

Mae terroristiaeth wastad wedi bod yn dacteg mewn rhyfeloedd, o’r dechrau’n deg; neu o leiaf o’r cyfnod hwnnw pan ddechreuodd gwareiddiad gofnodi’r hyn a ddigwyddai, naill ai’n ysgrifenedig, mewn barddoniaeth a cherddoriaeth neu drwy ei ddarlunio. Wrth ymosod ar y gelyn y bwriad oedd, ac yw, peri ofn a dychryn yn y gobaith y bydd morale y gelyn yn cael ei ergydio i’r fath raddau fel ei fod yn ildio. Yr un meddylfryd yw’r ‘shock and awe’.

Ystyriwch y llenyddiaeth cynharaf sydd wedi goroesi, gweithiau tebyg i hanes Gilgamesh yn Mesopotamia (Irac), a’r Iliad yn yr iaith Roeg. Mae’r chwedlau hyn yn llawn storïau am ‘arwyr’ yn cyflawni’r pethau mwyaf erchyll ar ei gilydd, ac ar bobl ddiniwed. Mewn cyfnod mwy hanesyddol fe gawn pobl tebyg i Iwl Cesar yn ymffrostio yn y modd y trechwyd y Galiaid wrth iddo ddarostwng y wlad i awdurdod ymerodraeth Rhufain. Ei bolisi oedd gwastadu’r wlad er mwyn peri’r fath arswyd ymhlith y trigolion fel na fyddent yn beiddio codi mewn gwrthryfel yn ei erbyn. Lladdwyd miliynau o’r Celtiaid. A beth am Alexander y Macedoniad a aeth ati i goncro rhan helaeth o’r Dwyrain Canol gan ladd cannoedd o filoedd o bobol yn y broses. Y mae ef ac Iwl Cesar yn cael eu hystyried fel arwyr ac yn bobl ‘mawr’ gan y diwylliannau sydd wedi bodoli yn Ewrop hyd heddiw. Roedd y rhain ymhlith y rheini a fu’n gyfrifol am osod sylfeini i’r gwareiddiad Ewropeaidd sydd wedi mawrygu trais a’r treisiwr fyth oddi ar hynny.

Nid fel arwyr yr ystyriwn rhai eraill a fu’n achosi arswyd yn eu cyfnod ac a effeithiodd ar wareiddiad Ewrop; Attila’r Hwn, er enghraifft, neu Genghis Khan a Timur Gloff (Tamerlane). Pam y gwahaniaethu yma? Yr oeddent yn gwneud yr un fath o bethau am yr un cymhellion a’r hyn a wnelai Iwl Cesar ac Alexander. Y gwahaniaeth mawr, wrth gwrs, yw’r ffaith taw hyrwyddo gwareiddiad y gorllewin a wnai’r rheini, tra’r oedd Genghis Khan a Timur Gloff yn hyrwyddo gwareiddiad Asiaidd. Y maent yn cael eu hystyried fel arwyr ar draws Asia hyd heddiw.

Mae’r ffordd yr ystyriwn pobol sy’n cyflawni gweithredoedd erchyll yn dibynnu ar ein magwraeth ac i ba ddiwylliant neu grefydd yr arddelwn. Trown i’r Beibl i ystyried un o’r storïau sy’n ymddangos yn Llyfr y Barnwyr sy’n sôn am Samson. Gyda pwy mae’ch cydymdeimlad wrth wrando’r hanes amdano yn dymchwel y deml oedd yn llawn o deuluoedd y Philistiaid yn cynnal un o’u gwyliau. Dywed awdur y stori taw dial oedd prif gymhelliad yr hunan-fomiwr hwn a lwyddodd i ladd cannoedd o bobol yn cynnwys gwragedd a phlant. Er hynny fe’n magwyd drwy gyfrwng yr Ysgol Sul a’n diwylliant lled-Gristnogol, i’w ystyried yn arwr. Dadansoddwch yr hyn a wnaeth ac ni allwch ond dod i’r casgliad bod ei weithred yn ffiaidd. Er mwyn mynd i’r afael â therroristiaeth mae’n rhaid inni fod yn onest ac agored, rydym yn bobol rhagfarnllyd sy’n llawer rhy barod i esgusodi a chyfiawnhau rhai gweithredoedd ond condemnio eraill. Rhaid ystyried pob gweithred gan ddefnyddio’r un safonau a’r un llinyn mesur.

‘Canu arwrol’ yw’r disgrifiad sy’n cael ei roi ar farddoniaeth cynharaf Cymru. Ystyriwch ‘Y Gododdin’ a gyfansoddwyd rhyw 1500 o flynyddoedd yn ôl ac a briodolir i Aneirin. Cerdd ydyw sy’n sôn am 300 o ‘arwyr dewr’ a aeth ati i ladd cymaint a y gallent o’u gelynion. Ac y mae’r traddodiad Cymreig yn mawrygu’r rhyfelwr ac yn canu ei glodydd drwy gyfnod y Cynfeirdd a’r Gogynfeirdd. Beth am ein harwyr ninnau? Caradog, Arthur, Llywelyn ac Owain Glyndŵr, i enwi ond pedwar; “dros ryddid collasant eu gwaed”!

Nid condemnio’r bobl yma a wnaf, yr oeddent yn gynnyrch eu cyfnod, ond tynnu sylw i’r ffaith bod pobol nawr yn eu canmol, ac yn eu hystyried fel arwyr i’w hefelychu. Mi roedd eu crefyddau yn eu bendithio wrth iddynt fynd ati i hyrwyddo lles eu pobol drwy ymosod yn ffyrnig ar bwy bynnag oedd yn eu rhwystro rhag cyrraedd y nod yr oeddent yn ei ddymuno.

Dewch yn nes at ein hoes ni. Dewiswyd Winston Churchill yn Brydeiniwr mwyaf y mileniwm diwethaf mewn pôl adeg y milflwyddiant. Ef a orchmynodd bomio Dresden (a Hambwrg a Wartbwrg). Datganodd Churchill mai pwrpas y bomio hyn oedd i dorri morale y gelyn. Pobl nad oedd yn rhan o beirianwaith rhyfel yr Almaen oedd mwyafrif llethol y bobol oedd yn Dresden. Lladdwyd ugeiniau o filoedd ohonynt. Gweithred i achosi ‘terror’ oedd hon. Ein terrorist ni oedd Churchill, arwr!! Fel y mae’r Mongoliaid yn mawrygu a gogoneddu Genghis Khan y mae’r Brits yn trin Churchill yn yr un modd. Wrth gwrs, rhaid bod yn ofalus wrth ddewis geiriau wrth drafod rhyfel a therroristiaeth, ‘arwyr dewr’ yw’r rhai sydd ar ein hochor ni, terroristiaid llwfr a chreulon yw’r rhai sydd ar eu hochor nhw, rhai sy’n barod i ladd y diniwed. Os rhown ein hunain yn sefyllfa cefnogwyr ISIS neu Al Qaeda wrth gwrs fe fyddai’r rhethreg i’r gwrthwyneb; ‘arwyr dewr’ yw’r hunan-fomwyr a llwfrgwn creulon yw’r rhai sy’n defnyddio awyrennau, taflegrau neu’r drones i ladd y diniwed.

Ffrwydrwyd y bomiau niwclear yn Hiroshima a Nagasaki er mwyn peri ofn a dychryn ar y Siapaneaid a’u gorfodi i ildio’n ddiamod i’r Americaniaid ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae’r arfau yma’n bodoli ac wedi eu datblygu er mwyn lladd pobol wrth yr ugeiniau o filoedd. WMD yw’r term i’w disgrifio, arfau terroristaidd ydynt. Mae’n arswydus meddwl bod rhan fwyaf o wleidyddion wedi datgan eu bod yn barod i’w defnyddio – ac mae’r mwyafrif llethol o’r boblogaeth yn eu cefnogi.

Yn sylfaenol y mae’r gwladweinydd a’r terrorist yn rhannu’r un meddylfryd sef ei bod yn angenrheidiol i ddefnyddio trais, erchyll ar rai adegau, er mwyn creu byd gwell. Byd gwell yw dymuniad pob ochor yn y gwrthdaro, ond bod y diffiniad o’r hyn sydd ‘well’ yn amrywio wrth gwrs. Mae pawb yn mofyn heddwch, ac er mwyn creu’r heddwch hwnnw y maint yn ymladd, oherwydd heddwch ar ein telerau ‘ni’ yw’r dymuniad bob tro.

Y gred yw y gall trais ddatrus y problemau enbyd sydd yn ein byd. Hon yw’r broblem waelodol, ac y mae pob ochr mewn unrhyw wrthdaro treisgar yn rhannu’r argyhoeddiad hwn. Achosi mwy o broblemau a wna mewn gwirionedd. Ymladdwyd y Rhyfel Byd I er mwyn rhoi terfyn ar ryfela. Y gwrthwyneb a ddigwyddodd, nid yn unig fod Rhyfel Byd II yn ganlyniad uniongyrchol iddo, ond gyda datgymalu’r ymerodraeth Ottoman a rhannu ei thiroedd rhwng Prydain a Ffrainc fe sicrhawyd y tyndra a’r gwrthdaro sydd i’w canfod yn Syria, Irac a’r Yemen heddiw. Prydain a sicrhaodd bod y teulu Saud yn ennill grym yn Arabia; teulu sy’n dilyn ideoleg eithafol a threisgar yw’r teulu hwn. Mae terroristiaeth heddiw yn ganlyniad i Imperialaeth ddoe. Ystyriwch y modd y rhanwyd tiroedd yr Ymerodraeth Ottoman rhwng Ffrainc a Phrydain yn dilyn y Rhyfel Byd I; yr oedd y ddwy wladwriaeth gyda’u hymerodraethau anferth yn meddiannu tiroedd miliynau o Fwslimiaid yn barod. Trwy’r tiroedd hynny fe ystyriwyd y Mwslimiaid fel bodau israddol i’w hecsploetio (pan yn blentyn ysgol un o’r ymosodiadau casaf ar gymeriad rhywun oedd ei alw’n ‘blydi arab’!) Ai cyd-ddigwyddiad yw hi mai dyna’r ddwy wladwriaeth sy’n dioddef y gweithredoedd terroristaidd amlaf yn Ewrop?

Pe byddai’n wir bod trais yn datrus problemau, ac y gellid creu gwell byd drwy aberthu bywydau (hen syniad paganaidd yw bod rhaid cael aberth gwaed cyson i wella’r byd), oni ddylen ni fod yn byw mewn paradwys heddychlon ar ôl yr holl dywallt gwaed sydd wedi digwydd ar hyd y canrifoedd? Celwydd a thwyll noeth yw’r fath honiadau ffôl. Er mwyn mynd i’r afael â therroristiaeth, rhaid mynd i’r afael â’r syniad bod trais yn datrus problemau a phwysleisio taw cynyddu’r problemau a wna.

Rhaid cysylltu’r math o derroristiaeth yr ydym wei dod yn llawer rhy gyfarwydd ag ef gyda’r anghyfiawnder enbyd sy’n bodoli yn ein byd. Barn llawer i arbenigwr yn y maes yw mai dulliau’r tlawd i ryfela yn erbyn y cyfoethog ydyw. Mae’n wir dweud na all heddwch fodoli mewn sefyllfa o anghyfiawnder. Mae cyfiawnder a heddwch yn gwbl annatod â’i gilydd. Dyma a ddywed y Salmydd (Salm 85:10-13):

Bydd cariad a gwirionedd yn cyfarfod, a chyfiawnder a heddwch yn cusanu ei gilydd. 

Bydd ffyddlondeb yn tarddu o’r ddaear, a chyfiawnder yn edrych i lawr o’r nefoedd. 

Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi daioni, a’n tir yn rhoi ei gnwd. 

Bydd cyfiawnder yn mynd o’i flaen, a heddwch yn dilyn yn ôl ei droed. 

A’r weledigaeth odidog honno yn Eseia: 32:15-20:

Pan dywelltir arnom ysbryd oddi fry, a’r anialwch yn mynd yn ddoldir, a’r doldir yn cael ei ystyried yn goetir, 

yna caiff barn drigo yn yr anialwch a chyfiawnder gartrefu yn y doldir; 

bydd cyfiawnder yn creu heddwch, a’i effeithiau yn llonyddwch a diogelwch hyd byth. 

Yna bydd fy mhobl yn trigo mewn bro heddychlon, mewn anheddau diogel, a chartrefi tawel, 

a’r goedwig wedi ei thorri i lawr, a’r ddinas yn gydwastad â’r pridd. 

Gwyn eich byd chwi sy’n hau wrth lan pob afon, ac yn gollwng yr ych a’r asyn yn rhydd. 

“Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a’i gyfiawnder ef,” yw cyfarwyddyd Iesu. Rhaid rhoi blaenoriaeth i hyn a phwyso ar ein gwleidyddion i’w weithredu yn y byd economaidd a chymdeithasol. Er mwyn mynd i’r afael â therroristiaeth, rhaid mynd i’r afael â’r anghyfiawnder rhemp sydd yn llygru’n byd.

Bydd meddyliau pawb yn canolbwyntio ar yr hyn ddigwyddodd ym Manceinion a Llundain ar hyn o bryd mae’n siwr. Byddai’n werth cyfeirio at rai ffeithiau sy’n berthnasol i ddeall y digwyddiadau hynny ac sy’n bwrw goleuni gwahanol i’r hyn y mae’r cyfryngau poblogaidd yn eu dweud wrthym.

Ym mis Ebrill eleni fe lwyddodd Theresa May werthu gwerth £3biliwn o arfau rhyfel i Saudi Arabia, gwlad sy’n ariannu mudiadau fel Al Qaeda, ISIS a Boko Haram. Fe wnaeth hyn tra’n gwybod bod y teulu Saud yn hyrwyddo Wahhabiaeth drwy’r byd, y sect eithafol Islamaidd sy’n sail i ideoleg y rhai sy’n teyrnasu yn Saudi Arabia. Mae’r teulu Saud yn defnyddio’u cyfoeth anferth i hyrwyddo Wahhabiaeth drwy’r gwledydd Islamaidd a thu hwnt. Mae lle i gredu taw un o’r ysgol hon o feddwl a achosodd y ffrwydrad ym Manceinion yn ddiweddar. Mae Prydain ac America yn gefnogol iawn i’r teulu Saud oherwydd eu bod yn prynnu cymaint o arfau oddi wrth y ddwy wladwriaeth.Dyma ddyfyniad o bregeth a gyflwynwyd yn y Mosc Mawr yn Medina, Saudi Arabia, dros ugain mlynedd yn ôl; ac y mae yn dal i’w weld ar y we: galwodd y pregethwr ar i Dduw “to seize the Jews and Christians in the grip of your punishment…send down upon them a torment most grievous…they have filled the entire world with tyranny, oppression and sins…We seek thy protection against their evil.” Mosc Mawr Medina sydd nesaf o ran pwysigrwydd i’r un yn Mecca, ac y mae’r ddysgeidiaeth a gyflwynir yno yn cael dylanwad aruthrol ar draws y byd Islamaidd ac yn cyflwyno syniadau Wahhabaidd y teulu Saud.

I ddychwelyd at brif ergyd y sylwadau hyn.

“We need to confront the ideology,” meddai arbenigwr ar derroristiaeth yn sgil yr ymosodiad yn Llundain nos Sadwrn ddiwethaf. “Far too much tolerance of extremism in this country …. single evil ideology,” meddai Theresa May mewn ymateb i’r hyn a ddigwyddodd yn Llundain ddydd Sadwrn ddiwethaf. Ond ychydig ddiwrnodau cyn hynny yr oedd yn gwerthu gwerth biliynau o arfau i’r wladwriaeth sydd yn hyrwyddo’r ideoleg honno. Er mwyn mynd i’r afael â therroristiaeth mae’n rhaid datgelu’r rhagrith a’r gweithredu Machiavelaidd sydd yn rhan anatod o’n gwleidyddiaeth modern ni.

Beth am yr ideoleg neu’r syniadau sy’n llywio gwerthoedd neu agweddau diwylliant y gorllewin? Ystyriwn ein diwylliant. Mae ffilmiau sy’n mawrygu trais yn cael eu dangos yn y sinemau ac ar y teledu. Byddai rhai yn dadlau bod llawer ohonynt yn cyflwyno ‘trais diniwed’ – westerns neu Star Wars er enghraifft. Ond maent yn llawn gogoneddu dialedd, a’r pwyslais mai lladd y dihirod yw’r ffordd i sicrhau gwell cymdeithas a byd. Mae nofelau antur, gemau fideo a comics o bob math yn llawn trais ac yn hyrwyddo’r meddylfryd hwn. Yn wir mae trais a rhyfela yn rhan o adloniant yr oes, ac ychydig yw’r nifer o’r rhai sy’n mynegu gofid ynglŷn â hyn. Oherwydd bod trais yn chwarae rhan bwysig iawn yn ein diwylliant modern ni mae’n bwysig inni herio’r diwylliant hwnnw, mae’n cyfrannu at greu’r hinsawdd sy’n cyfiawnhau gweithredu’n dreysgar. Os am fynd i’r afael â therroristiaeth rhaid inni gydnabod hyn a herio’r diwylliant hwnnw.

Dechreuwyd ar ymdrech fwriadol i geisio normaleiddio trais a militariaeth gan y llywodraethau Llafur a Toriaidd ers dechrau’r ganrif honno. Ychwanegwyd dathlu diwrnod y Lluoedd Arfog gan Gordon Brown, a gwnaeth David Cameron roi pwyslais ar y tiriogaethwyr yn y gobaith y byddai rhai yn perthyn i bob cymuned drwy wledydd Prydain. Gwelir hysbysebion cyson ar y teledu sy’n sôn am ba mor braf a chyffrous yw bywyd milwr. Y llynedd fe roddwyd arian mawr i’r ymdrech i sicrhau bod ysgolion yn sefydlu unedau cadets i’r plant. Yr angen yw pwysleisio mai peth abnormal yw rhyfela, nid normal.

Mae’n diwylliant torfol yn rhamanteiddio trais, mae’n gwneud arwyr o’r rhai sy’n lladd. Mae yna rywbeth rhamantus iawn mewn bod yn fodlon marw dros achosion sy’n cynhyrfu’r emosiwn – dros ryddid, cenedl ac yn y blaen. Mae beirdd a chantorion drwy hanes, a’r llenyddiaeth y cyfeiriwyd ato, wedi bod yn sôn am y gogoniant a berthyn i’r aberth sy’n cael ei wneud gan y rhai sy’n ymladd hyd angau dros eu gwlad, neu ryw achos, dros greu byd gwell i’w plant a’r cenedlaethau sy’n dilyn. Syniad rhamantus yw’r parodrwydd i gyflawni rhywbeth trawiadol heddiw er mwyn cael yfory gwell. Mae hyn yr un mor wir am y sawl sy’n cyflawni gweithredoedd terroristaidd a’u cefnogwyr. Arwr yw’r hunan-fomiwr sy’n barod i roi ei fywyd dros well dyfodol i’w bobol. Er mwyn mynd i’r afael â therroristiaeth mae’n rhaid di-ramanteiddio rhyfel a thrais a sylweddoli eu bod yn gweld eu hymladdwyr yn yr un ffordd ac mae’n milwyr ni yn y gorllewin yn cael eu mawrygu a’u clodfori.

Er mwyn dwysáu’r ymdeimlad rhamantaidd hwn o weithredu’n arwrol fe ddefnyddir iaith grefyddol i ddisgrifio’r arwyr yn aml. Yn ein diwylliant ôl-Gristnogol ni mae geiriau ac ymadroddion crefyddol fel ‘hunan-aberth’, ‘rhoi ei fywyd’, cyflawni’r weithred ‘dros eraill’ yn cael eu defnyddio. Cael ei aberthu y mae milwr sy’n colli ei fywyd, gan y grymoedd sy’n ei ddanfon i ryfel. Nid rhoi ei fywyd a wna ond ‘gwerthu’ ei fywyd yn ddrud. Mae ‘rhoi’ yn golygu nad yw’r rhoddwr yn disgwyl cael unrhywbeth yn ôl. Rhyfyg o’r mwyaf yw defnyddio cyfeiriadau at hunan-aberth Iesu ar y groes, yn enwedig ‘Cariad mwy na hwn nid oes …’ i fawrygu’r hyn a ddigwydd mewn rhyfel. Mae’r terrorist yn gwneud yn union yr un peth, ond ei fod yn gweld yr ‘arwr’, neu’r mewn ffordd gwahanol: arwr yw’r un sy’n merthyru ei hun dros yr achos, sydd yn sanctaidd yn eu golwg. Mae’r arwr gorllewinol a’r merthyr ill dau’n marw yn cael eu haberthu er mwyn hyrwyddo’r syniad o gyfiawnder. Mae’r weithred yn gyfiawn yn eu golwg. Er mwyn mynd i’r afael â therroristiaeth rhaid cael gwared â’r syniad bod yna’r fath beth a rhyfel cyfiawn yng ngolwg Duw.

Gellid dadlau, fel y mae llawer yn gwneud, bod parodrwydd i ryfela yn perthyn i’r natur ddynol ac na ellir rhoi diwedd arno – byth. Os gwir hynny, ac fe gredaf fod yna elfen gref o wirionedd ynddo, yna rhaid cydnabod bod parodrwydd i weithredu terroristiaeth yn rhan o’r natur ddynol hefyd, fel sy’n cael ei amlygu gan agwedd y mwyafrif at y bom niwclear. Fe wyddom o brofiad mae’n siwr mai’r hyn sy’n perthyn i’r natur ddynol yw tuedd at ddialedd, casineb a’r parodrwydd i ddefnyddio trais. Er mwyn mynd i’r afael â therroristiaeth mae’n rhaid mynd i’r afael â’r natur ddynol.

Pa rym all gyflawni’r newid hwn? Ystyriwn beth ddigwyddodd i Iesu; yr oedd y meddylfryd treisgar a therroristaidd ar waith adeg y Pasg Cristnogol cyntaf yn Jerwsalem. Wylodd Iesu dros y ddinas am iddi ymwrthod â Ffordd Tangnefedd fel yr amlygir yn yr hanes.

Pan arestiwyd Iesu fe’i osodwyd ar ei brawf, ac yn ôl yr Efengylau rhoddwyd dewis i’r dorf (sydd yn ein cynrychioli ni, y ddynoliaeth) o naill ai rhyddhau Iesu neu Barabbas. Terrorist oedd Barabbas yng ngolwg y Rhufeiniaid, dywed Marc (15:7) ei fod yn euog o wrthryfela a llofruddio. Yr oedd Iesu’n hyrwyddo Ffordd Tangnefedd a Barabbas yn hyrwyddo ffordd trais a dialedd. Dewis y dorf oedd Barabbas, a’u dymuniad oedd croeshoelio Iesu.

Gweithred terroristaidd oedd croeshoelio; fe’i dyfeisiwyd fel ffordd i achosi braw ac ofn er mwyn rhwystro pobol rhag gweithredu mewn modd a fyddai’n peryglu’r wladwriaeth. Crogwyd y truan drwy ei hoelio ar groes yn gyhoeddus er mwyn rhwystro eraill rhag dilyn yr un ffordd. Gwnaethpwyd hyn i Iesu, tywalltwyd llid a chasineb mewn modd hynod greulon arno. Trechodd Iesu’r cyfan, dangosodd Duw taw ffordd Iesu sy’n maeddu ffordd trais a ddyfeisiwyd i greu terror nid ffordd Barabbas oedd am drechu drygioni drwy ddefnyddio arfau drygioni. “Trecha di ddrygioni â daioni” yw anogaeth Paul, yr union beth a wnaeth Iesu ar Galfaria.

Y ffordd i ymateb i derroristiaeth, boed o eiddo’r wladwriaeth neu fudiadau gwrthryfelgar, yw drwy ddilyn a hyrwyddo ffordd Iesu. Daeth ef i’r byd er mwyn newid y natur ddynol, drwy ein cael i edifarhau, sef newid ein meddwl a’n ffordd, ac i fod yn ddisgyblion iddo ef, bod yn oleuni i’r byd ac yn lefain yn y blawd. Dangos ffordd Iesu i’r byd yw ein braint ni, ac mae hyn yn rhywbeth y gall pob un ohonom ei wneud. Yr unig rym all newid y natur ddynol yw grym cariad Duw yn Iesu sydd ar waith yn ein byd drwy gyfrwng yr Ysbryd Glân.