Ydych chi’n poeni am yr holl ryfela sy’n ein byd? Ydych chi’n credu bod angen mwy o ymgyrchu dros heddwch ar lefel leol, yn ogystal ag ar lefelau cenedlaethl a rhyngwladol? Amcan y Rhwydwaith Heddwch yw annog unigolion, eglwysi a chyfundebau ar hyd a lled y wlad i weithredu, a lledaenu neges heddwch a chymod.

Cadeirydd Rhwydwaith Heddwch Undeb yr Annibynwyr yw y Parchg Guto Prys ap Gwynfor.

“Ein dyletswydd yw cyhoeddi neges yr Efengyl i fyd sy’n mynd yn fwyfwy peryglus,” meddai Guto. “Nid yw’r eglwysi’n ddigon ymwybodol o’r angen i weithredu dros heddwch. Mae angen pregethu mwy ar hyn. Tangnefedd, cariad a chyfiawnder yw hanfodion y ffydd Gristnogol.”


Dyma sgwrs gyda chadeirydd y Gymdeithas Hanes, Joan Thomas a'r hanesydd Catrin Stevens am y Ddeiseb Heddwch, 1923, pan gasglwyd bron i 400,000 o lofnodion gan ferched Cymru. Mae modd lawrlwytho'r fideo wrth wasgu ar y gair 'Vimeo' a dod o hyd i 'download' ar y dudalen nesaf.


Dyma stori Ffion Fielding sy'n arwain prosiect Hawlio Heddwch yn y Deml Heddwch, Caerdydd. Mae Ffion yn un o blant Capel y Priordy, Caerfyrddin, ac ers rhai misoedd mae wedi bod yn codi ymwybyddiaeth am y Ddesieb Heddwch a lofnodwyd gan 400,000 o fenywod Cymru, ganrif yn ôl. Mae modd lawrlwytho'r fideo wrth wasgu ar y gair 'Vimeo' a dod o hyd i 'download' ar y dudalen nesaf.


Mabon ap Gwynfor AS fu'n trafod y cwestiwn canlynol yng Nghyfarfodydd Blynyddol yr Undeb yn Rhosllannerchrugog; 'Beth ydy rôl Cymru yn y mudiad heddwch rhyngwladol yn yr G21ain?'


Diolch i Ysgol Farddol Caerfyrddin am gynnal digwyddiad arbennig yn ystod Cyfarfodydd Blynyddol yr Undeb yn yr Haliwell, Caerfyrddin eleni.  Trwy gyfrwng cerddi gan aelodau'r ysgol farddol cafwyd achlysur teilwng a bendithiol iawn.


Cynhaliwyd 'Egwyl dros Heddwch' fis Mawrth 2022 dan ofal Cadeirydd y Rhwydwaith Heddwch, Guto Prys ap Gwynfor. Rhannwyd dyheadau a gweddïau dros heddwch yn Wcráin yn ystod y noson.

E-bostiwch undeb@annibynwyr.cymru i dderbyn dolen i'r cyfarfod.

Er mwyn ymuno â’r rhwydwaith, neu rannu newyddion a gweithgareddau ag aelodau eraill, cysylltwch â rhodri@annibynwyr.cymru


Mae 21 Medi wedi cael ei ddynodi’n Ddiwrnod Heddwch y Byd gan y Cenhedloedd Unedig. Ers 1982, mae nifer fawr o wledydd y byd wedi defnyddio’r achlysur i hybu byd di-drais a heb ryfeloedd. Eleni eto mi fydd gweithgareddau yn cael eu cynnal ym mhedwar ban, a cheir gwybodaeth pellach am yr hyn sy’n digwydd yma.

Fel Rhwydwaith Heddwch yng Nghymru yr ydym yn annog eglwysi a chyfundebau i gofio Diwrnod Heddwch y Byd drwy greu rhywbeth pwrpasol, a’i anfon atom i’w rannu. Gall fod yn weddi am heddwch, yn gân, cyflwyniad byr neu gerdd ac yn y blaen. Anfonwch eich cyfraniad atom cyn 21 Medi er mwyn i ni rannu’r negeseuon ar y diwrnod. Gellir e-bostio undeb@annibynwyr.cymru gyda’ch cyfraniadau.

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.