Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Posted on

Mae heddiw yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, ac mae’r achlysur wedi cael ei ddathlu mewn gwledydd dros y byd ar yr 8fed o Fawrth ers troad yr ugeinfed ganrif.

Eleni, mae Rhwydwaith Merched Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn nodi’r diwrnod drwy gyhoeddi eu hymgyrch am y flwyddyn. Bwriad y Rhwydwaith yw i gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i annog miliwn o bobl i siarad Cymraeg erbyn 2050.

Mewn sawl cymuned, lle mae’r siop a’r swyddfa bost, y dafarn a’r ysgol wedi cau, y capel Cymraeg lleol yw’r unig adeilad cyhoeddus sy’n dal i fod ar agor. Mae Rhwydwaith Merched yr Undeb yn awyddus i weld defnydd yn cael ei wneud o aelodaeth ac adeiladau’r capeli i hybu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn eu hardal.

Mae’r ymgyrch yn ran o weledigaeth ehangach yr Undeb i gefnogi amcan y Llywodraeth.

“Byddai’n brosiect cenhadol o ran ein hiaith a’n ffydd, yn ffordd o adfywio eglwysi sy’n addoli ac yn cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, a hefyd yn fodd i gau’r bwlch rhwng cymunedau ieithyddol sy’n byw bywydau cyfochrog mewn sawl ardal,” meddai Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb.

Cafodd y bwriad ei groesawu’n frwd gan Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg. “Meddyliwch beth sydd ‘da ni o ran y capeli, yn adeiladau ac yn gynulleidfaoedd,” meddai. “Efallai bo ni wedi anghofio’r rôl sydd gyda nhw i helpu sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n fyw yn ein cymunedau ar draws Cymru. Mae’n bosib ein bod ni, wrth feddwl am y capeli yn dirywio, wedi mynd i feddwl nad oes cyfraniad pwysig gyda nhw, ond mae ‘na gyfle bendigedig fan hyn.”

Fe fydd Meri Huws yn annerch cyfarfod o Gyngor Undeb yr Annibynwyr yng Ngregynog, Powys prynhawn ddydd Gwener, fel dechrau trafodaeth i lunio strategaeth.

Ers ei sefydlu dwy flynedd yn ôl mae’r Rhwydwaith wedi cefnogi ymgyrchoedd yn erbyn trais domestig, gyda grwpiau o ferched o bob rhan o Gymru yn cyfrannu drwy godi arian, ymwybyddiaeth a chasglu nwyddau i lochesi lleol. Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch newydd yn sbardun i grwpiau lleol o ferched i estyn allan i’w cymunedau, gan gynnal gweithgareddau i hybu’r Gymraeg o fewn eu heglwysi.