Achlysur hynod bwysig yn y Cyfarfodydd Blynyddol yng Nghaerfyrddin oedd cyhoeddi Heulwen dan Gymylau, sef llawlyfr ymgyrch Eglwysi Dementia-gyfeillgar. Ysgogwyd y prosiect gan Adran Dinasyddiaeth Gristnogol yr Undeb, a bu gweithgor, o dan faner Cyfundeb Dwyrain Morgannwg, wrthi’n ddygn yn llunio’r llawlyfr, gyda chymorth ac awgrymiadau gwerthfawr gan nifer o asiantaethau a sefydliadau sydd yn gweithio yn y maes arbennig yma.

Maint y salwch

Yn ôl ffigyrau’r Gymdeithas Alzheimer, mae dros 850,000 o bobl yng ngwledydd Prydain yn byw gyda dementia, ac mae disgwyl i’r ffigwr yna gynyddu i filiwn erbyn 2025 (a dwy filiwn erbyn 2050). Yn wyneb y fath ystadegau, mae Undeb yr Annibynwyr am annog a chynorthwyo’r eglwysi ar draws Cymru benbaladr, i ymbaratoi rhag-blaen ar gyfer hyn, ac mae’r llawlyfr yn cynnig arweiniad ar sut i wneud hyn o dan bedwar pennawd:

  • Adeiladau
  • Gofal Bugeiliol
  • Oedfaon a Gweithgareddau
  • Y Gymuned

Mae llawlyfr yn eich tywys trwy ddull o hunanasesu y man cychwyn ar y daith. Cewch gymorth ‘Patrymau ar gyfer oedfaon,’ a chewch werthfawrogi ‘Grym Cerddoriaeth’ i’r rhai sy’n byw gyda dementia. Ceir cyfeiriadau a chysylltiadau cymdeithasau sydd eisoes yn gweithredu yn y maes, a gwybodaeth ar sut i fod yn ‘Ffrind Dementia’ (a hefyd fel ‘Hyrwyddwr Ffrindiau Dementia’) yn ôl y galw.

Rhestrir adnoddau digidol a llyfrau print ar ddiwedd y llawlyfr, ac mae’r cyfan wedi ei osod o fewn cyd-destun ‘Seiliau Diwinyddol Eglwys Ddementia-gyfeillgar’ mewn cyflwyniad byr gan lywydd yr Undeb, y Parchedig Beti-Wyn James.

Adnodd hawdd i’w gael

Mae yr adnodd cyfan ar gael ar wefan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ac mae cyfieithiad Saesneg yn cael ei baratoi yn ogystal. Ewch i:

Eglwysi Dementia-gyfeillgar (annibynwyr.cymru)

Bydd y fersiwn digidol yn hwyluso defnydd o’r cynnwys i unigolion neu ar gyfer oedfa, a chynhwysir nifer ychwanegol o esiamplau o oedfaon addas yma, gyda sleidiau PowerPoint i gyd-fynd â’r cyfan. Gwnewch yn siŵr bod copi o’r llawlyfr yn cyrraedd eich eglwys / capel yn fuan, ac yn fwy na hynny, ewch ati i’w ddarllen, ac i weithredu!

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.