Mae'n Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ddydd Sadwrn Tachwedd 25, pan fydd dynion yn dangos eu hymrwymiad i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben.

Eleni mae'r Rhwydwaith Merched wedi paratoi gweddi arbennig sy'n cynnwys bechgyn a dynion o gefndiroedd gwahanol. Yn eu plith mae'r ffarmwr ifanc, Jac Thomas sy'n aelod yn Nghapel y Priordy, Caerfyrddin.  Mae'r weddi yn cynnwys athro a chwaraewyr rygbi ifanc ynghyd â wynebau cyfarwydd fel Dafydd Iwan, Prif Gwstabl De Cymru, Jeremy Vaughan a chyn hyfforddwr Cymru, Robin McBryde.

 Mae croeso i chi rannu a lawrlwytho'r weddi hon a'i defnyddio ar y Sul. Diolch i'r cyfranwyr ac i'r Parchg Casi Jones am baratoi'r weddi.

 

Dolenni Defnyddiol

Erthyglau Perthnasol

Y Newyddion Diweddaraf

Derbyniwch y newyddion, fideos ac adnoddau diweddaraf.